Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Data Mawr yn dathlu digwyddiad llwyddiannus arall: Dysgu mewn partneriaeth

13eg Mehefin 2024

Tîm Data Mawr yn dathlu digwyddiad llwyddiannus arall: Dysgu mewn partneriaeth: 

Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd y tîm Dadansoddeg Uwch yn yr Adnodd Data Cenedlaethol, mewn partneriaeth â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, ei bedwerydd digwyddiad Data Mawr, gan groesawu’r niferoedd mwyaf erioed i’w weminar ar-lein. 

Daeth y digwyddiad ag arbenigwyr a chydweithwyr blaenllaw o GIG Cymru a sefydliadau partner ynghyd i rannu eu mewnwelediadau, eu syniadau a’u harferion gorau mewn Data Mawr. 

Roedd mynychwyr yn uniaethu â'r thema "Dysgu mewn partneriaeth" oedd yn sbarduno trafodaethau difyr a rhannu lot o wybodaeth. 

 

Cwrdd â'n Gwesteiwr a'n Siaradwyr 

  • Cynhaliodd Rebecca Cook, Prif Swyddog Data yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru gynhaliodd y digwyddiad, gan gyflwyno’r siaradwyr ac ateb cwestiynau am y rhaglen Adnodd Data Cenedlaethol. Croesawodd Rebecca amrywiaeth effeithiol o siaradwyr: 
  • Siaradodd Dr Jonathan Bright, Cymrawd Ymchwil, Pennaeth Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus am y cyfleoedd a’r heriau a gynigir gan ddeallusrwydd artiffisial (AI) yn y sector cyhoeddus. 
  • Rhannodd Dr Alex Aubrey, Arweinydd Clinigol Deallusrwydd Artiffisial, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) sut mae Deallusrwydd Artiffisial yn llywio addysg gofal iechyd yng Nghymru a ledled y DU. 
  • Trafododd Andrew Griffiths, Prif Swyddog Gweithredol, FEDIP sut gall gweithio gyda chyrff proffesiynol iechyd a gofal gefnogi'r proffesiwn gwybodeg. 
  • Siaradodd Louise Smith, Rheolwr Prosiect, yr Adnodd Data Cenedlaethol - Dadansoddeg Uwch, am ddysgu dadansoddeg cydweithredol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Pwysleisiodd yr arbenigwyr bwysigrwydd addysg wrth integreiddio Deallusrwydd Artiffisial i ofal iechyd, gan amlygu'r angen am ddefnydd cyfrifol a gwerth gwybodaeth arbenigol. 

 
 
 
 
 

Gan adeiladu ar y llwyddiant hwn a digwyddiadau blaenorol, mae’r tîm Data Mawr yn bwriadu parhau i gynnal digwyddiadau tebyg ar bynciau amrywiol sy'n effeithio ar Ddata Mawr yn y sector gofal iechyd. Cynhelir y digwyddiad nesaf yn yr hydref, mae'r dyddiad a'r thema i'w cadarnhau. 

I gael gwybod rhagor am y tîm Dadansoddeg Uwch a'r Adnodd Data Cenedlaethol, neu i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau yn y dyfodol, cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr yr Adnodd Data Cenedlaethol.