Neidio i'r prif gynnwy

Technoleg presgripsiynau electronig yn cael ei chymeradwyo i'w defnyddio yn Boots yng Nghymru

28 Mehefin 2024

Mae’r gwaith o gyflwyno’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru, sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i gleifion a staff gofal iechyd, yn parhau i gyflymu. 

Boots yw’r ail gyflenwr fferylliaeth i gael ei dechnoleg presgripsiynau electronig wedi’i chymeradwyo gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru i’w defnyddio yn ei fferyllfeydd cymunedol ledled y wlad. Mae hyn yn dilyn profion llwyddiannus yn ei siop yn Llanfairfechan, Conwy, mewn partneriaeth â Meddygfa Plas Menai gerllaw.  

Mae EPS yn caniatáu meddygfeydd i anfon presgripsiynau yn electronig i fferyllfa gymunedol o ddewis y claf, heb fod angen y ffurflen bresgripsiwn werdd. 

Bydd yn gwneud pethau’n haws ac yn fwy diogel i gleifion a staff gofal iechyd yng Nghymru, yn ogystal â helpu’r amgylchedd drwy leihau’r miliynau o ffurflenni presgripsiwn papur sy’n cael eu hargraffu bob blwyddyn ar hyn o bryd. 

 
 

Mae symud o bresgripsiynau papur gwyrdd i wasanaeth digidol yn un o’r newidiadau mwyaf ym maes gofal iechyd ers degawdau. Ac er mwyn iddo weithio mae angen i systemau meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol fedru anfon a derbyn presgripsiynau electronig yn ddiogel.  

Invatech oedd y cyflenwr fferyllol cyntaf i gwblhau profion ar ei dechnoleg EPS yn llwyddiannus ar gyfer ei defnyddio yng Nghymru. Mae nifer o gyflenwyr eraill hefyd yn y broses o brofi eu meddalwedd fferylliaeth i’w defnyddio yng Nghymru, a bydd y rhain yn cael eu cyflwyno mor gyflym a diogel â phosibl. 

Mae cyflwyno EPS ledled Cymru yn rhan allweddol o’r rhaglen trawsnewid Moddion Digidol, a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. 

I ddarganfod mwy ewch i’n gwefan Moddion Digidol.