Neidio i'r prif gynnwy

System Rheoli Diabetes yng Ngogledd Cymru

20 Ionawr 2025

Mae system Datrysiad Gwybodaeth Cymru ar gyfer Rheoli Diabetes (WISDM) bellach yn fyw yn Ardal Ganolog Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

Ceir mynediad i WISDM trwy Borth Clinigol Cymru ac fe’i defnyddir gan feddygon ymgynghorol, nyrsys, podiatryddion, dietegwyr, obstetryddion a gynaecolegwyr, yn ogystal â chynorthwywyr gofal iechyd a staff gweinyddol, i gefnogi gofal diabetes.

Mae’r cydweithrediad llwyddiannus hwn rhwng tîm Newid Busnes IGDC, tîm prosiect WISDM a thîm Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT) BIPBC yn parhau i ddod â’r newid i ofal diabetes di-bapur gam yn nes.

Dywedodd Mandy Rees-Saunders, Podiatrydd sy’n Arbenigo ar Ddiabetes yn BIPBC: “Roeddwn yn falch iawn o weld y byddem yn gallu ysgrifennu ein nodiadau clinigol ar system y mae mwy nag un gwasanaeth yn ei defnyddio.

“Porth Clinigol Cymru yw’r peth agosaf sydd gennym at system gyffredinol i weld profion, gwybodaeth a chanlyniadau ar gyfer gwahanol wasanaethau i gyd mewn un lle. Felly mae’n gwneud synnwyr i ni fedru rhoi ein nodiadau clinigol diabetes lle gall gwasanaethau eraill eu gweld, yn enwedig lle rydym yn cyfeirio at arbenigeddau eraill. A gallwn ni hefyd weld eu nodiadau nhw heb orfod clicio yn ôl rhwng sawl system wahanol.

“Mae WISDM yn fodern, yn hygyrch ac yn arbed amser. Ac mae’n gwneud fy swydd yn llawer haws ac yn caniatáu i mi ganolbwyntio ar yr agwedd glinigol wrth edrych tua’r dyfodol mewn amgylchedd lle mae amser yn brin. Rydyn ni’n defnyddio system sy’n bodoli eisoes mewn ffordd fwy deallus.”

Aeth WISDM yn fyw yn Ardal Orllewinol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Rhagfyr 2023. Bydd y gwaith o gyflwyno’r system ar draws gweddill Gogledd Cymru yn parhau eleni.