bron 15 Mawrth 2022
Mae’r system ddigidol y tu ôl i’r gwaith o gyflwyno brechiadau COVID-19 yng Nghymru, sef System Imiwneiddio Cymru (WIS), wedi derbyn Gwobr Dewis y Bobl mewn seremoni yn Llundain am ei heffaith yn ystod y pandemig.
Mae Digital Leaders Impact Awards yn dathlu’r arloesiadau technoleg ddigidol sy’n gwella bywydau pobl neu sy’n sicrhau effaith gymdeithasol gadarnhaol. Cyflwynir Gwobr Dewis y Bobl i’r mwyaf poblogaidd o bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ym mhob categori, ac fe’i penderfynir drwy bleidlais y cyhoedd.
Mae System Imiwneiddio Cymru, a adeiladwyd mewn 16 wythnos yn unig gan dîm o ddatblygwyr meddalwedd yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn gweithio drwy integreiddio amserlennu gyda chofnodi brechiadau COVID-19 ledled Cymru, a hynny mewn un cymhwysiad. Agweddau allweddol ar lwyddiant y cynnyrch fu canoli apwyntiadau ar gyfer canolfannau brechu torfol, anfon llythyrau apwyntiadau, a negeseuon testun dwyffordd, gan sicrhau bod gan Gymru raglen frechu lwyddiannus.
Cystadlodd â 36 o gystadleuwyr cenedlaethol eraill yn y categori Gwobr Dewis y Bobl, gan gynnwys Pàs COVID y GIG, Swyddfa’r Cabinet, Riverford Organic Farmers a’r BT Green Tech Innovation Platform.
Derbyniodd Anne Marie Cunningham, Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt Iechyd a Gofal Digidol Cymru, y wobr ar ran tîm WIS mewn seremoni yn Llundain yr wythnos ddiwethaf. Dywedodd: “Nid dim ond ar gyfer ein tîm ac nid dim ond ar gyfer ein sefydliad y mae hwn, ond mae ar gyfer pawb a oedd yn rhan o’r gwaith imiwneiddio ar draws y GIG cyfan. Dyma un o’r straeon mwyaf llwyddiannus yn ystod holl gyfnod y pandemig. Unwaith y cewch eich brechu, mae eich siawns o farw o COVID-19 yn lleihau 80%. Roedden ni yn rhan o hynny, ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o hynny.”
Ers i System Imiwneiddio Cymru gael ei chyflwyno ym mis Rhagfyr 2020, mae wedi cyfrannu at y gwaith o ddarparu bron i 7 miliwn o frechiadau COVID-19 ledled Cymru, ac mae wedi anfon dros 14 miliwn o negeseuon testun a bron i 6 miliwn o lythyrau am apwyntiadau brechu.