17 Chwefror 2022
Mae System Imiwneiddio Cymru (WIS) wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Arweinwyr Digidol Impact Awards 2022. Mae'r gwobrau'n ddathliad o dechnoleg er gwell y DU. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn un o dri sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori Arloesedd yn ystod y Pandemig am y WIS, sy'n darparu'r gwaith o reoli, dosbarthu ac adrodd ar gyfer rhaglen frechu COVID-19 yng Nghymru.
Gwnaeth y datrysiad digidol, a ddatblygwyd gan dîm Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gefnogi’r rhaglen frechu lwyddiannus, argraff fawr ar y panel beirniadu a fydd yn gwneud penderfyniad terfynol ar y wobr yn y seremoni ar 10 Mawrth.
Cymru yw'r unig ran o'r DU i ddatblygu datrysiad rheoli brechlyn digidol gan ddefnyddio tîm meddalwedd mewnol sy'n bodoli eisoes. Mae WIS yn olrhain stoc y brechlyn, yn creu slotiau apwyntiad, yn anfon llythyrau apwyntiad, ac yn cofnodi manylion am bob brechlyn a roddir.
Canmolwyd y system gan Brif Swyddog Gweithredu Rhaglen Frechu Cymru, Jeremy Griffith,
"Ar ôl siarad â chydweithwyr yn y DU, UDA, Ffrainc, Seland Newydd ac Awstralia – maent i gyd wedi rhyfeddu at yr hyn y gall WIS ei wneud. Mae wedi bod yn sylfaen i ddarparu un o'r rhaglenni brechu cyflymaf a gorau yn y byd i gyd. Nid yn unig mae’r tȋm wedi adeiladu system dda ond mae wedi addasu'r system ar fyr rybudd - pan fu'r amser rhwng gwneud penderfyniad a rhoi’r penderfyniad ar waith yn oriau a dyddiau."
Bydd gwobr gyffredinol Dewis y Bobl hefyd yn cael ei chyhoeddi yn y seremoni wobrwyo fis nesaf, a bydd pleidlais gyhoeddus ar gyfer hyn ar agor tan 9 Mawrth.