10 Hydref 2022
Mae’r System Rheoli Gwybodaeth Sgrinio Coluddion (BSIMS) a ddatblygwyd ac a gefnogir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cael ei defnyddio i ehangu’r Rhaglen sgrinio coluddion i bobl 55, 56 a 57 oed.
Mae'r BSIMS yn gymhwysiad diogel ar y we sy'n cefnogi'r broses sgrinio gyfan, drwy ddethol pobl o Gymru i gael eu sgrinio.
Yn dilyn ehangu’r rhaglen profi yn y cartref, bydd 172,000 yn fwy o bobl yng Nghymru yn dechrau derbyn pecynnau hawdd eu defnyddio sy’n profi camau cynnar canser y coluddyn. Mae'r pecynnau profi syml i'w defnyddio yn cael eu postio'n awtomatig i bobl gymwys bob dwy flynedd. Mae’r rhai sy’n cael eu sgrinio yn darparu sampl o ysgarthion gartref ac yna'n ei anfon yn ôl i'w ddadansoddi.
Fel rhan o ehangu’r rhaglen, bydd pobl 55, 56 a 57 oed yn dechrau cael eu gwahodd i gael eu sgrinio am y tro cyntaf o fis Hydref. Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno'n raddol i'r grŵp oedran cymwys newydd yn ystod y 12 mis nesaf. Mae tystiolaeth yn dangos bod sgrinio pobl yn iau yn galluogi canfod mwy o ganserau'r coluddyn yn gynharach, pan fo triniaeth yn debygol o fod yn fwy effeithiol a phan fo tebygolrwydd goroesi yn well.
Meddai Dr Sharon Hillier, Cyfarwyddwr yr Is-adran Sgrinio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Rwy’n falch iawn ein bod yn ehangu’r rhaglen sgrinio ar gyfer canser y coluddyn i gynnwys y rhai 55 - 57 oed yng Nghymru. Nod prawf sgrinio'r coluddyn yw dod o hyd i ganser yn gynnar pan fo triniaeth yn debygol o fod yn fwy effeithiol. Mae canfod yn gynnar mor bwysig gan y bydd o leiaf 9 o bob 10 o bobl yn goroesi canser y coluddyn os caiff ei ganfod a'i drin yn gynnar. Mae sgrinio'r coluddyn hefyd yn canfod ac yn arwain at dynnu polypau cyn-ganseraidd a allai ddatblygu'n ganser pe baent yn cael eu gadael yn y coluddyn. Bydd y sawl sy’n gymwys yn cael pecyn profi a gwahoddiad drwy’r post dros y 12 mis nesaf”.