3 Chwefror 2022
Mae system fferylliaeth ysbytai ddigidol newydd bellach ar gael yn genedlaethol yn dilyn cyflawni ei gweithrediad dros 12 mis mewn 28 o safleoedd ar draws saith bwrdd iechyd ac un ymddiriedolaeth yng Nghymru.
Dyluniwyd y system i wella cywirdeb dosbarthu cyfrifiadurol a rheoli stoc meddyginiaethau. Mae’r system hon yn disodli meddalwedd sy’n 30 oed, ac mi fydd yn sicrhau gwell perfformiad, bydd yn fwy dibynadwy a bydd yn rheoli meddyginiaethau yn fwy effeithlon. Bydd hi hefyd yn gwella eglurder y data a gofnodir, gan sicrhau cydymffurfiad pellach â llywodraethu cenedlaethol, a fydd yn golygu y bydd cleifion yn cael gofal mwy diogel a chyson. Darparwyd cyllid ar gyfer y prosiect gan Gronfa Buddsoddi Blaenoriaethau Digidol Llywodraeth Cymru, ac fe’i gweithredwyd gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Dywedodd Berwyn Owen, Prif Fferyllydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr “Mae moderneiddio a safoni System Rheoli Stoc Fferylliaeth Ysbytai Cymru ledled Cymru yn rhoi cyfle gwych i fferylliaeth ysbytai yn ogystal â moderneiddio hen system”
Ychwanegodd, “Dyma gyfle i wneud pethau’n well, gan gydweithio yn gyson ac mewn modd safonol. Er bod llawer o fanteision, mae un o’r canlyniadau ar ei ben ei hun – sef y ffeil feddyginiaethau Cymru Gyfan y cytunwyd arni – yn ein galluogi i wirio stoc yn gywir ledled Cymru a thrafod yr un cynhyrchion meddyginiaethol yn yr un modd. Gallwn adeiladu ar hyn, a mwy, i optimeiddio a gwella’n barhaus, gan wybod ein bod i gyd yn canu’r un dôn ac felly nad oes neb yn cael ei eithrio o’r daith.”
Mae cysondeb un system genedlaethol yn dod â llawer o fanteision, gan gynnwys labeli safonol ar feddyginiaethau ysbytai i helpu i roi profiad gwell i gleifion.
Eglurodd Rosslyn Sharp, Fferyllydd Arweiniol yn Hywel Dda, “Mae’r cysondeb yn helpu i dawelu meddwl cleifion, a gall wneud pethau’n llai o straen iddyn nhw.”
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, “Rwy’n llongyfarch tîm y prosiect a staff ar draws GIG Cymru am y garreg filltir arwyddocaol hon. Mae rhoi system Cymru gyfan ar waith mewn blwyddyn, yng nghanol pandemig, yn dipyn o gamp. Dyma ran gyntaf ein hymrwymiad i drawsnewid y ffordd yr ydym yn rhagnodi ac yn gweini meddyginiaethau ledled Cymru, drwy’r Rhaglen Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol. Bydd y systemau digidol newydd hyn yn galluogi staff i weithio’n fwy effeithlon a threulio mwy o amser yn gofalu am gleifion.”
Mae gan y system, a ddatblygwyd gan CareFlow Medicines Management (WellSky gynt), bron i 2,500 o ddefnyddwyr ledled Cymru ac mae’n cynnig ffordd fwy effeithlon a chyson o weithio ar draws ysbytai. Mae'n cysylltu data dosbarthu a defnyddio meddyginiaeth trwy ddefnyddio safonau a gydnabyddir yn genedlaethol, gan roi golwg mwy cynhwysfawr, amser real ar wybodaeth. Dyma’r cam cyntaf ar y daith i weithredu presgripsiynu electronig cenedlaethol a gweini meddyginiaethau.
Dywedodd Rob Blay, Prif Swyddog Gweithredol CareFlow Medicines Management, “Mae rhoi’r prosiect fferylliaeth cenedlaethol ar waith wedi bod yn llwyddiant aruthrol oherwydd y brwdfrydedd a’r ymroddiad y mae timau ysbytai wedi’u dangos wrth fabwysiadu ein datrysiad digidol. Mae 28 o ysbytai mewn 12 mis yn dipyn o gamp, ac roedd Covid-19 yn gefndir i’r cyfan. O ganlyniad i’r cyflwyniad cyflym hwnnw, maent eisoes yn elwa ar fanteision niferus un system fferylliaeth a gwella profiad cleifion ledled Cymru.”