Neidio i'r prif gynnwy

Staff IGDC yn ymuno â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar gyfer digwyddiad arddangos i fyfyrwyr

 

17 Gorffennaf 2024

Ymunodd cydweithwyr IGDC â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol mewn digwyddiad arddangos yn Abertawe i rannu enghreifftiau o ymchwil arloesol sy’n cael ei wneud fel rhan o’r MSc Trawsnewid Digidol ar gyfer y Proffesiynau Iechyd a Gofal ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. 

Mae’r cwrs ôl-radd hwn yn gwella sgiliau staff iechyd a gofal cymdeithasol - dyma’r cwrs cyntaf o’i fath yng Nghymru, a’r cyntaf yn y DU i gael ei achredu yn erbyn meini prawf rhyngwladol mewn addysg gwybodeg feddygol. 

Mae’n addas i’r rhai sydd â diddordeb mewn ehangu a gweithio o fewn tirwedd ddigidol darparu iechyd a gofal. Datblygwyd y rhaglen mewn cydweithrediad â Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI) ac IGDC. 

Cynhaliwyd y digwyddiad yn Adeilad IQ y brifysgol yn Abertawe. Rhoddwyd y cyflwyniadau i fyfyrwyr gan: 

  • Angela Jones, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan 
  • Ambu Ambalavanan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 
  •  Carl Davies, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 
  •  Sian Perry, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda 
  • Dafydd James, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda 
  • Robert Brain, Cyngor Sir Caerfyrddin 
  • Andrew Shuler, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 
  • Claire Muxworthy, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru 
  •  Luke Padwick, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre 
  • Sheiladen Aquino, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 
  • Thoko Owino, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Dywedodd Thoko Owino, Uwch Reolwr Prosiect yn IGDC: “Mae’r cwrs wedi ehangu fy ffiniau a fy helpu i dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol. 

"Teitl fy sgwrs yn y digwyddiad i fyfyrwyr oedd 'Os galla i wneud e, gallwch chi hefyd'. Er gwaetha'r amheuon oedd gen i i ddechrau, rwy'n gwneud yn dda yn fy aseiniadau. Mae pob llwyddiant yn rhoi mwy o hyder i fi, ac yn fy ngrymuso i fynd i'r afael â heriau newydd a chyfrannu'n fwy effeithiol yn fy swydd bob dydd." 

Roedd Gareth Cooke, Arweinydd Rhaglen Genedlaethol IGDC ar gyfer Caffael System Gwybodeg Radioleg (RISP), yn aelod o garfan gyntaf y rhaglen, lle bu’n astudio’n rhan-amser tra’n gweithio’n llawn amser i GIG Cymru. 

Dywedodd: “Roedd y cwrs yn heriol ac yn rhoi boddhad mawr, wrth i mi ddysgu am bynciau fel trawsnewid gwasanaethau trwy bobl, dadansoddeg data, gwneud penderfyniadau a gwella iechyd a lles gan ddefnyddio sgiliau digidol.  

“Rhoddodd y cwrs fewnwelediad newydd i mi i ddamcaniaethau a chysyniadau digidol yr oeddwn yn gallu eu defnyddio yn fy rôl. 

“Cafodd y cwrs ei gyflwyno’n rhithwir a gan fy mod yn astudio’n rhan-amser, fe wnaeth hyn fy ngalluogi i gydbwyso fy amser rhwng gweithio ac astudio.  

“Roedd y darlithwyr yn gefnogol ac yn barod iawn i helpu, ac yn darparu adborth adeiladol yn rheolaidd ar gyfer aseiniadau. Un enghraifft o hyn oedd y modiwl dadansoddeg data, a oedd yn heriol i mi gan nad oeddwn wedi defnyddio meddalwedd SPSS o’r blaen fel offeryn i ddadansoddi data. Fe wnaeth arweinydd y cwrs fy nghefnogi, fy annog a fy helpu i ddysgu a deall sut i wneud hyn. 

“Byddwn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un sy’n gweithio gyda systemau digidol neu a hoffai ddysgu am drawsnewid digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.” 

Dywedodd yr Athro Philip Scott, Cyfarwyddwr y Rhaglen: “Rydym yn falch iawn o weld sut mae ein myfyrwyr wedi gallu defnyddio’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu yn y gweithle, gan ddod ag ymagwedd sy’n seiliedig ar dystiolaeth at drawsnewid digidol. Maen nhw wedi dod â phersbectif newydd i nifer o brosiectau ledled Cymru, gyda ffordd o feddwl sy’n academaidd drylwyr a ffocws ar wella gwasanaethau, nid ar dechnoleg er ei fwyn ei hun. 

“Mae myfyrwyr wedi gweithio mewn nifer o feysydd amrywiol fel nyrsio pediatrig, gofal cymdeithasol, fferylliaeth, gofal diwedd oes, cofnodion iechyd personol, therapi lleferydd a rheoli wardiau ysbyty.” 

Dywedodd yr Athro Wendy Dearing, Deon yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd yn PCYDDS: “Yma yn PCYDDS, rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod ein rhaglenni’n gyfoes ac yn adlewyrchu cyd-destun y ‘byd go iawn’ ac nid yw’r rhaglen feistr hon yn eithriad.  

“Rydym wedi dod â gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant i mewn i weithio ochr yn ochr â’n timau academaidd a’n partneriaid i roi’r offer i’n myfyrwyr adeiladu ar eu harbenigedd unigryw i feithrin diwylliant o gynhwysiant, trwy ddefnyddio eu sgiliau digidol a data i barhau i ddarparu gwasanaeth iechyd a gofal o’r radd flaenaf i’n dinasyddion.”