Neidio i'r prif gynnwy

Sgrinio Coluddion Cymru yn gwahodd pobl 58 a 59 oed i gael eu sgrinio

23 Tachwedd 2021

Mae’r rhaglen Sgrinio Coluddion Cymru wedi dechrau gwahodd pobl 58 a 59 oed am y tro cyntaf i gael eu sgrinio ar gyfer canser y coluddyn. Bydd y rhaglen yn parhau i wahodd y rhai rhwng 60 a 74 oed, sydd eisoes yn cael eu gwahodd.

Mae meddalwedd a ddatblygwyd ac a gefnogir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cefnogi'r rhaglen sgrinio coluddion. Mae’r System Rheoli Gwybodaeth ar Sgrinio Coluddion (BSIMS) yn gymhwysiad diogel ar y we sy’n cefnogi’r broses sgrinio gyfan, drwy ddethol pobl o Gymru i gael eu sgrinio.

Anfonir pecyn sgrinio yn y cartref drwy’r post i’r bobl gymwys sy’n cael eu gwahodd i brawf sgrinio. Yna, bydd y pecyn yn cael ei ddychwelyd a’i brofi yn labordai GIG Cymru. Bydd y labordai yn defnyddio BSIMS i ddilyn hynt y pecynnau, i gofnodi’r canlyniadau ac i gynhyrchu llythyrau canlyniadau. Bydd unrhyw un sydd â chanlyniad positif i’r prawf yn cael ei gyfeirio am ymchwiliadau pellach ac asesiad gan ymarferwyr sgrinio arbenigol. Mae BSIMS yn cefnogi’r broses gyda modiwl archebu clinig ac mae’n darparu dyddiadur a ffurflen asesu ar-lein ar gyfer ymarferwyr sgrinio arbenigol.

Canser y coluddyn yw’r ail ganser mwyaf angheuol ymysg dynion a menywod yng Nghymru. Bydd sgrinio’r coluddyn yn canfod canser y coluddyn yn gynnar, yn aml pan na fydd unrhyw symptomau, a phan fydd triniaeth ar ei mwyaf effeithiol.

Caiff y feddalwedd sgrinio coluddion a ddatblygwyd yng Nghymru ei defnyddio yng Ngogledd Iwerddon hefyd.

Gallwch ddysgu mwy am sgrinio'r coluddyn trwy ymweld â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.