Neidio i'r prif gynnwy

Seremoni Wobrwyo ALP 2024 yn Dathlu Arloesi Cydweithredol 

Cafodd y Rhaglen Ddysgu Dadansoddeg (ALP) ei seremoni wobrwyo flynyddol i ddathlu llwyddiant ei phrosiectau dadansoddi cydweithredol ar 2 Hydref 2024. Daeth y digwyddiad hybrid â gweithwyr data proffesiynol o bob rhan o Gymru ynghyd i gyflwyno eu datrysiadau ac i gystadlu am y gwobrau. 

Roedd yno chwe thîm, yn cynnwys aelodau o Iechyd a Gofal Digidol Cymru, GIG Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, yr Uned Gomisiynu Cydweithredol Genedlaethol (NCCU), Byrddau Iechyd Cymru, awdurdodau lleol a mwy. Cyflwynodd pob un eu prosiectau, yn amrywio o ddelweddu gwasanaethau ADHD oedolion i ddadansoddi amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys. Defnyddiodd y prosiectau Google Cloud Platform (GCP) yr Adnodd Data Cenedlaethol (NDR), gan ddangos ei botensial i drawsnewid mewnwelediadau a yrrir gan ddata ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru. 

Roedd y panel o feirniaid yn cynnwys Rebecca Cook, Prif Swyddog Data IGDC; Chris Habberley, Uwch Reolwr Prosiect Dadansoddeg Uwch NDR, IGDC; Gareth John, Pennaeth Cyflenwi Gwybodaeth; Jessica Pang, Uwch Ddadansoddwr Gwelliant; a Kate MacKenzie, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Data a Mewnwelediad. Gwerthusodd y panel y prosiectau yn seiliedig ar: ffocws ar ddefnyddwyr, arloesi, cydweithredu, cymhwyso ac adrodd straeon.

Rhoddwyd adborth i bob tîm ar y diwrnod, gan gynnig mewnwelediadau gwerthfawr ar gyfer gwaith datblygu yn y dyfodol. 

Dywedodd Chris Habberley:  

Eleni, yn ALP 2024, yw’r tro cyntaf i ni geisio cysylltu cyfranogwyr â’r Google Cloud Platform. Mae wedi bod yn wych gweld yr heriau a’r manteision y gwnaeth y timau eu darganfod, ac rwy’n gwerthfawrogi’n fawr y gwersi rydyn ni wedi’u dysgu oddi wrthych chi [y timau] a’ch gwaith caled.  

Anogodd Chris y cyfranogwyr i barhau i archwilio potensial gwasanaethau NDR ar gyfer prosiectau cydweithredol yn y dyfodol.  

Mewn arolwg yn ystod y digwyddiad, dywedodd dros 87% o’r cyfranogwyr eu bod yn teimlo’n fwy hyderus yn eu sgiliau data proffesiynol. Roedd y gystadleuaeth yn ffyrnig, gyda Team Tempus Triage yn ennill am eu prosiect Dadansoddi Amseroedd Aros 4, 8 a 12 Awr mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys. Derbyniodd tîm RaSCals wobr arbennig gan y beirniaid am eu gwaith rhagorol gyda’u prosiect Gwasanaethau Cymunedol o’r Maint Cywir.  

Dywedodd Chris O’Connor, Arbenigwr Dadansoddeg Uwch o fewn tîm Dadansoddeg Uwch NDR, a arweiniodd ALP 2024, ynghyd â’r Swyddog Cefnogi Rhaglen, Ani Morgan:  

Mae Prosiectau Cydweithio eleni wedi dangos talent a chreadigrwydd anhygoel ein cyfranogwyr. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut y bydd y prosiectau hyn yn cyfrannu at wella gofal iechyd a chymdeithasol yng Nghymru.  

Mae’r prosiectau cydweithio ALP yn gyfle gwerthfawr i weithwyr data proffesiynol gydweithio, dysgu a datblygu datrysiadau arloesol. Wrth i NDR barhau i ehangu ei alluoedd, gallwn ddisgwyl gweld hyd yn oed mwy o brosiectau arloesol yn y dyfodol.  

Edrych i’r Dyfodol  

Bydd carfan ALP 2025 yn dechrau ym mis Mawrth 2025. 

Cyflwyno ffurflen mynegi diddordeb i gymryd rhan yn ALP2025.

Cynhelir sesiwn wybodaeth ar Hydref 31 i roi mwy o fanylion a chaniatáu i gyfranogwyr posibl gofrestru.
Cofrestrwch i ymuno â'r Sesiwn Wybodaeth ALP 2025 ar 31 Hydref 2024.

Dod yn Hyfforddwr: Rydyn ni hefyd yn chwilio am hyfforddwyr ar gyfer ALP 2025. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn hyfforddwr, anfonwch e-bost at ndrskills@wales.nhs.uk.

Achosion Defnydd: Rydyn ni’n gwahodd unigolion neu sefydliadau sydd ag achosion defnydd perthnasol neu brosiectau i’w rhannu gyda ni. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau yn ymwneud â hyn, anfonwch e-bost at ndrskills@wales.nhs.uk.  

I gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y rhaglen, e-bostiwch ndrskills@wales.nhs.uk.