Neidio i'r prif gynnwy

SAIL yn ennill yng Ngwobrau Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe

16 Mai 2022

Llwyddodd tîm Gwasanaethau Gwybodaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru i rannu'r gydnabyddiaeth gyda thîm SAIL Prifysgol Abertawe am eu cyfraniad eithriadol i ymchwil ac arloesi.

Mae'r gwobrau a gynhaliwyd gan y brifysgol yr wythnos diwethaf, yn cael eu cyflwyno i ymchwilwyr a thimau sy'n gweithio yn y brifysgol i ddathlu ansawdd, perthnasedd ac effaith fyd-eang gadarnhaol ymchwil a'i photensial i ysbrydoli.

Enillodd y tîm o brosiect banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) - sy'n darparu storfa gadarn a diogel o ddata dienw sy’n seiliedig ar unigolyn sydd wedi'i greu at ddibenion ymchwil i wella gwasanaethau iechyd - y categori 'Effaith eithriadol ar iechyd a llesiant'. 

Mae cronfa ddata SAIL yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei data dienw am boblogaeth Cymru.  Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn gyfrifol am ddarparu llawer o'r data a ddefnyddir gan SAIL ac mae hefyd yn olrhain ac yn amgryptio unrhyw ddynodyddion personol a ganfyddir i sicrhau bod y data bob amser yn ddiogel.

Dywedodd Rachael Powell, Cyfarwyddwr Cyswllt Gwybodaeth, Deallusrwydd ac Ymchwil DHCW, “Roeddem wrth ein bodd bod tîm SAIL wedi ennill ac yn ddiolchgar iawn eu bod wedi ein gwahodd i rannu'r enwebiad a'r wobr gyda nhw. Yn ddiweddar, gwnaethom ennill Achrediad Deddf yr Economi Ddigidol ar gyfer yr Offer SAIL yr ydym yn ei gynnal, ac felly roedd hynny'n gyflawniad enfawr i DHCW a SAIL, ac roedd yn gyfle da i ddathlu hyn gyda nhw hefyd.”

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am enillwyr pob categori a’r rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer ar wefan Prifysgol Abertawe.