Neidio i'r prif gynnwy

Rhyddhau Ap GIG Cymru yng nghyfnod cynnar Beta

18 Tachwedd 2022

Fe wnaeth fersiwn ‘beta’ o’r Ap GIG Cymru newydd mynd yn fyw y mis hwn ac mae’n cael ei dreialu gan tua mil o bobl sydd wedi cofrestru mewn deg practis meddyg teulu yng Nghymru. 

Mae Ap GIG Cymru newydd yn galluogi pobl i ddefnyddio gwasanaethau iechyd a gofal yn ddiogel trwy eu ffôn clyfar, llechen neu liniadur.

Wedi misoedd o waith caled a datblygiadau o fewn y rhaglen Gwasanaethau Digidol i Gleifion a’r Cyhoedd (DSPP), mae’r cyfnod ‘beta’ preifat yn galluogi defnyddwyr i brofi’r ymarferoldeb a’r nodweddion i’w cynnwys pan fydd yr ap yn cael ei lansio ar gyfer y cyhoedd y flwyddyn nesaf.  Bydd adborth gwerthfawr yn nodi unrhyw broblemau neu fygiau yn y meddalwedd.

Bydd pobl yn gallu cyrchu gwybodaeth yn yr ap trwy ddefnyddio manylion mewngofnodi GIG ar gyfer dilysu a gwirio eu cyfrif yn y lle cyntaf. Yna bydd modd mewngofnodi gan ddefnyddio dulliau megis adnabod olion bysedd ac wynebau.  Mae fersiwn wefan hefyd ar gael sy’n caniatáu mynediad drwy broses a ddiogelir gan gyfrinair.

Mae Ap GIG Cymru yn bodloni safonau hygyrchedd llym a bydd yn hygyrch i bobl â nam ar eu golwg.

Darllenwch ragor am Wasanaethau Digidol i Gleifion a'r Cyhoedd neu  gwrandewch ar bodlediad diweddaraf Iechyd a Gofal Digidol Cymru gyda Tracy Higgs  - Arweinydd Cynnyrch gyda’r Datblygwr Meddalwedd, Kainos a Matt Cornish - Cyfarwyddwr Rhaglen Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar gyfer Gwasanaethau Digidol i Gleifion a'r Cyhoedd.