Neidio i'r prif gynnwy

Rheolwr Cydafiacheddau BMJ Best Practice bellach ar gael ym mhob rhan o GIG Cymru 

24 Ionawr 2023  

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru wedi ymestyn ei thanysgrifiad cenedlaethol i BMJ Best Practice i gynnwys y Rheolwr Cydafiacheddau ar gyfer holl weithwyr iechyd a gofal proffesiynol GIG Cymru.

Yn y DU yn unig, mae gan un o bob tri o gleifion a gaiff eu derbyn i’r ysbyty fel mater brys bum cyflwr neu fwy. Mae hyn yn achosi her sylweddol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Bydd canllawiau clinigol yn aml yn canolbwyntio ar gyflyrau unigol, ond gall methu â thrin y claf cyfan arwain at ganlyniadau clinigol gwaeth, a chyfnodau hwy yn yr ysbyty. Tynnodd pandemig byd-eang COVID-19 sylw pellach at y broblem, gan fod gan fwy na 60% o'r cleifion a dderbyniwyd i unedau gofal dwys gydafiacheddau¹.

Mae’r Rheolwr Cydafiacheddau o fewn BMJ Best Practice yn helpu i reoli’r claf cyfan drwy gynnwys canllawiau ar sut i drin cyflwr acíwt claf ochr yn ochr â’r cydafiacheddau a oedd ganddo eisoes. 

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn rhoi mynediad i BMJ Best Practice fel adnodd cymorth clinigol ymarferol er mwyn helpu gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol GIG Cymru i ddiwallu anghenion newidiol a mwy cymhleth cleifion, a gwneud y defnydd gorau o adnoddau GIG Cymru, gan arwain at well gofal a chanlyniadau i gleifion.

Dywedodd Geraint Walker, Gwybodegydd Clinigol Gofal Critigol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, “Fel adnodd cymorth ar gyfer penderfyniadau clinigol, mae'n hawdd defnyddio Rheolwr Cydafiacheddau BMJ i ychwanegu cydafiacheddau a gweld eu heffaith ar y cynllun triniaeth. Mae hefyd yn rhoi canllawiau clir ar ystyriaethau ychwanegol i gyd o fewn un wedd i’r clinigydd.”  

Dywedodd Louise Crowe, Cyfarwyddwr Gwybodaeth, BMJ, “Rydym yn falch iawn bod e-Lyfrgell GIG Cymru wedi ymestyn ei thanysgrifiad i BMJ Best Practice i gynnwys y Rheolwr Cydafiacheddau ar gyfer holl weithwyr iechyd a gofal proffesiynol GIG Cymru. Gan fod 97% o ddefnyddwyr mewn arolwg diweddar wedi dweud bod y Rheolwr Cydafiacheddau wedi gwella eu hymarfer, rwy'n hyderus y bydd yn cynnig gwerth enfawr.

Yn BMJ, helpu i gefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol yw’r nod ym mhopeth a wnawn, ac mae’r Rheolwr Cydafiacheddau'n cynrychioli newid sylweddol yn y ffordd y gwnawn hynny.”    

Gall holl ddefnyddwyr awdurdodedig e-Lyfrgell GIG Cymru ddefnyddio BMJ Best Practice. Mewngofnodwch yn bestpractice.bmj.com. Gellir cael mynediad ar unwaith o rwydwaith GIG Cymru neu drwy gyfrif OpenAthens GIG Cymru.

Cymorth a chefnogaeth: Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Llyfrgell neu Wybodaeth lleol neu wasanaeth cymorth BMJ: support.bmj.com. I ddysgu sut i greu cyfrif OpenAthens GIG Cymru am ddim, ewch i https://eli.gig.cymru/mewngofnodi/  

 


¹ Espinosa OA, Zanetti ADS, Antunes EF, Longhi FG, Matos TA, Battaglini PF. Prevalence of comorbidities in patients and mortality cases affected by SARS-CoV2: a systematic review and meta-analysis. Rev Inst Med Trop Sao Paulo. 2020;62:e43. Published 2020 Jun 22. doi:10.1590/S1678- 9946202062043. https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC7310609/