24 Tachwedd 2025
Mae cleifion a rhoddwyr sy'n defnyddio gwasanaethau canser a gwaed arbenigol yng Nghymru ar fin elwa o wasanaeth rhagnodi symlach, gyda gwasanaeth digidol newydd yn gwneud pethau'n haws ac yn fwy diogel iddyn nhw ac i'r staff sy'n rheoli eu gofal.
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (YGPF) wedi dewis y cyflenwr meddalwedd Better fel ei bartner technoleg dewisol i ddarparu Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau electronig (ePMA), sy'n gweld prosesau papur traddodiadol yn cael eu disodli gan systemau digidol.
Mae ePMA yn lleihau'r risg o gamgymeriadau meddyginiaeth drwy sicrhau bod presgripsiynau'n glir, yn ddarllenadwy ac yn gyflawn, ac mae'n cynnwys gwiriadau diogelwch adeiledig ar gyfer alergeddau a chywirdeb dos. Mae YGPF yn ymuno â phob bwrdd iechyd yng Nghymru i gymryd y cam arwyddocaol hwn ymlaen wrth gyflwyno rhagnodi electronig mewn ysbytai.
Dywedodd Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Cynghreiriol a Gwyddor Iechyd yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre: “Mae cyflwyno rhagnodi electronig yn Felindre yn nodi carreg filltir bwysig yn ein hymrwymiad i ddiogelwch cleifion a gofal o safon. Drwy ddisodli systemau papur gyda phrosesau digidol, rydym yn lleihau'r risg o gamgymeriadau meddyginiaeth ac yn sicrhau bod ein cleifion yn derbyn y driniaeth fwyaf diogel a mwyaf effeithiol posibl.”
Dywedodd Dr Lesley Hewer, Cadeirydd y Rhaglen ePMA Genedlaethol: “Rydym wrth ein bodd yn gweld Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn ymuno â byrddau iechyd yng Nghymru sydd wedi llofnodi contractau gyda’u cyflenwyr ePMA priodol.
“Mae rhagnodi electronig yn cynyddu diogelwch drwy alluogi staff i ymateb yn gynt i angen claf am feddyginiaeth briodol a thrwy leihau gwallau rhagnodi. Mae hefyd o fudd i'r amgylchedd gan ei fod yn anelu at leihau ein defnydd o bapur.”
Dywedodd Adrian Aggett, Cyfarwyddwr Cleientiaid Better: "Gyda Felindre yn mabwysiadu Better Meds, mae Cymru yn parhau i wneud cynnydd mawr tuag at reoli meddyginiaethau'n fwy diogel a gofal iechyd mwy cysylltiedig. Fel ein pumed bartneriaeth yng Nghymru, mae'r cydweithrediad hwn yn adlewyrchu uchelgais genedlaethol a rennir i gyfarparu clinigwyr â gwell offer digidol ar gyfer gofal a sicrhau bod cleifion yn derbyn y gofal mwyaf diogel a chyson posibl.”
Mae ePMA yn cael ei gyflwyno i bob ward ym mhob ysbyty yng Nghymru fel rhan o Raglenni Moddion Digidol, dan arweiniad Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) i sicrhau bod rhagnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon i gleifion a chlinigwyr. Mae’r rhaglen ePMA genedlaethol yn cael ei chefnogi a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhan o’r trawsnewidiad digidol sy’n digwydd ledled Cymru i wella gofal a thriniaeth.
Dywedodd Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol Cymru: “Mae’r newid i ragnodi digidol ar draws pob ysbyty a gofal sylfaenol yn cefnogi cynhyrchiant cynyddol y GIG ac yn arwain at welliannau pellach yn y defnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau.
“Mae’r cyhoeddiad bod Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cyflwyno ePMA i’w gwasanaethau canser a gwaed arbenigol yn enghraifft arall o’r cynnydd rhagorol sy’n cael ei wneud i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithredu rhagnodi electronig yn llawn yng Nghymru.”
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn darparu gwasanaethau canser a gwaed arbenigol trwy Wasanaeth Canser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru. Mae Gwasanaeth Canser Felindre yn darparu gwasanaethau oncoleg trydyddol arbenigol nad ydynt yn llawfeddygol i gleifion ledled de-ddwyrain Cymru. Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn darparu ystod o wasanaethau hanfodol ac arbenigol iawn yn genedlaethol, gan gynnwys casglu a chynhyrchu gwaed, cydrannau gwaed a mêr esgyrn i drin cleifion.
Llun: Tîm ePMA Velindre