29 Tachwedd 2022
Mae tîm Iechyd a Gofal a Digidol Cymru (DHCW) wedi cael cydnabyddiaeth am ei waith ar y cyd ar ôl derbyn dwy wobr gan HETT, sef Rhagoriaeth Gofal Iechyd Trwy Dechnoleg.
Datblygodd y tîm Gwasanaethau Gwybodaeth Iechyd Meddwl a Chymunedol gynllun digidol cenedlaethol i gynorthwyo’r broses ofal ar gyfer gwasanaethau Plant sy’n Derbyn Gofal yng Nghymru. Datblygodd y prosiect, a noddir gan Lywodraeth Cymru, safonau gwybodaeth cenedlaethol ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng ymarferwyr a sefydliadau. Cafodd y rhain eu datblygu trwy CareDirector, system ddigidol sy’n rhan o raglen waith WCCIS (System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru) o fewn DHCW
Roedd y cynllun yn sicrhau bod data’n cael eu mewnbynnu unwaith ond yn cael eu defnyddio droeon, gan ganiatáu i’r wybodaeth gywir fod ar gael ar yr amser cywir – gan helpu i sicrhau bod y penderfyniad cywir yn cael ei wneud. Oherwydd bod llai o amser yn cael ei dreulio yn mewnbynnu data, mae mwy o amser gan ymarferwyr i ddarparu gofal.
Derbyniodd y tîm dlysau gan HETT mewn dau gategori – gwobr ‘Fydd hynny byth yn gweithio' – am y datrysiad mwyaf creadigol ac aflonyddgar, gan gydnabod 'datrysiadau beiddgar sydd wedi llwyddo' ym maes arloesi, a’r wobr ‘Gwaith ar y cyd gorau ym maes Gofal Integredig’ am brosiectau, cyfarwyddebau a mentrau ar y cyd sy’n dangos y pŵer sydd gan ofal integredig i’w gynnig.
Dywedodd Heidi Morris, Pennaeth Gwasanaethau Gwybodaeth Iechyd Meddwl a Chymunedol DHCW fod y tîm wedi gweithio mewn ffordd newydd:
“Roedd yn rhaid i ni wneud yn siŵr fod gennym ni’r bobl iawn yn mynychu gweithdai cenedlaethol – pobl a allai wneud y penderfyniadau, o bob rhanbarth o Gymru. Roedd y ddeddfwriaeth yn dweud wrthym beth ddylai plentyn ei gael ar adegau penodol ar lwybr, ac roedd yn rhaid inni fod â dull gweithredu cyson, ac nid oedd hynny erioed wedi’i wneud o’r blaen o ran data cenedlaethol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.”
Ychwanegodd Damian Rees, Prif Swyddog Safonau Diogelu a Chyflawniad (LADO) Cyngor Abertawe,
“Bu angen y gwaith hwn ers blynyddoedd lawer. Mae wedi teimlo fel cyflawni'r anghyraeddadwy. Bydd y gwaith yn sicrhau fod pawb sydd angen gwybod yn deall anghenion iechyd plant sy’n derbyn gofal yn llawn er mwyn sicrhau bod eu hanghenion gofal a chymorth yn cael eu diwallu. Mae’r gwaith hwn wedi dangos y gall iechyd a gofal cymdeithasol ddod at ei gilydd yn effeithiol a chreu ffyrdd arloesol o ddefnyddio technoleg.”
Gobaith y tîm bach nawr yw y bydd yn gallu defnyddio’r glasbrint o greu dylunio cenedlaethol, safonau a mewnwelediad data mewn prosiectau cydweithredol eraill, a bydd yn dechrau gweithio ar ddyluniad gwasanaethau cymunedol yn fuan. Dywedodd Heidi fod y gymeradwyaeth a gafodd y tîm gan Wobrau HETT yn wych,
“Mae'n cydnabod fod hon yn ffordd dda iawn o weithio ac mae'n wych cael cymeradwyaeth a sêl bendith y trydydd parti hwn”.