Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect darganfod iechyd meddwl ar restr fer Gwobrau GIG Cymru

20fed Mehefin 2024                            

Mae prosiect 12 wythnos i nodi heriau a chyfleoedd mewn gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o Wobrau GIG Cymru. 

Dan arweiniad y tîm Iechyd Sylfaenol, Cymunedol a Meddwl yn IGDC, mae’r prosiect wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer ‘Gwobr Dull System Gyfan GIG Cymru’. Edrychodd y prosiect ar sut y gallai offer a data digidol drawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, i ddarparu gofal sy’n diwallu anghenion unigryw pob unigolyn.  

Roedd dau gam i’r prosiect. Roedd y cam cyntaf yn canolbwyntio ar wasanaethau iechyd meddwl yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg. Yn yr ail gam, ymgysylltodd y tîm â’r chwe bwrdd iechyd arall, sefydliadau cenedlaethol ac unigolion trwy gyfres o weithdai a chyfweliadau.   

 

Mae Gwobrau GIG Cymru yn dathlu rhagoriaeth ym maes iechyd a gofal yng Nghymru. Maen nhw’n tynnu sylw at y gwelliannau ansawdd a diogelwch sydd wedi trawsnewid profiadau a chanlyniadau i bobl yng Nghymru. Mae categorïau’r gwobrau’n cyd-fynd â’r Ddyletswydd Ansawdd a Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023. 

Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni yng Nghaerdydd ar ddydd Iau, 24 Hydref. Cafodd y beirniaid, o GIG Cymru, y sector cyhoeddus a chyrff proffesiynol, amser caled yn dewis y 36 a gyrhaeddodd y rownd derfynol o blith nifer fawr o geisiadau ysbrydoledig. Yn y cam nesaf, bydd y beirniaid yn cymryd rhan mewn ymweliadau rhithwir gyda phawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol i ddysgu mwy am eu prosiectau gwella.  

I gael rhestr lawn o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, ewch i www.gwobraugig.cymru.