16 Gorffennaf 2021
Am y tro cyntaf, mae'r system a ddefnyddir i brosesu atgyfeiriadau electronig gan feddygon teulu i ysbytai wedi’i chysylltu ag ysbytai dros y ffin yn Lloegr. Bellach gall meddygon teulu ym Mhowys anfon atgyfeiriadau digidol gan ddefnyddio Porth Gweinyddu Cymru (WAP) i dair ymddiriedolaeth yn Lloegr; Ymddiriedolaeth Ysbyty Amwythig a Telford, Ymddiriedolaeth Dyffryn Gwy ac Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt.
Cyn cyflwyno WAP, roedd yn rhaid i ysbytai Lloegr argraffu atgyfeiriadau y byddent yn eu derbyn, ond erbyn hyn mae opsiynau digidol ar gael iddynt, gan ddarparu gwasanaeth cyflymach a mwy trylwyr i gleifion. Gall yr ysbytai anfon diweddariadau statws yn ôl at feddygon teulu; dychwelyd atgyfeiriadau amhriodol, a gofyn am wybodaeth bellach yn electronig. A gall meddygon teulu Powys ymateb i'r ceisiadau hyn yn electronig.
Mae WAP hefyd yn cynnig llwybr electronig dwy ffordd rhwng Ymddiriedolaethau Lloegr a Thîm Comisiynu Powys pan fydd angen cymeradwyo triniaeth yn Lloegr. Yn flaenorol, byddai hyn yn cael ei wneud trwy argraffu, ffacsio, postio neu e-bostio'r atgyfeiriadau i'w cymeradwyo gan y tîm comisiynu. Gellir anfon atgyfeiriadau trwy lwybr carlam trwy eu hanfon yn uniongyrchol at y tîm priodol – yn seiliedig ar arbenigedd a blaenoriaeth – a'u dargyfeirio i'r tîm comisiynu pan fydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw gan y tîm hwnnw. Esboniodd Merryl James, y Rheolwr Cefnogi Prosiectau, “mae'n arbed amser a thrafferth i'r timau gwasanaethau cleifion, yn arbed amser i'r claf ac yn bwysicaf oll, mae'n fwy diogel i'r claf gan na fydd atgyfeiriadau'n cael eu colli mwyach"
Bu'n rhaid cyflwyno rhaglen hyfforddi'r system o bell i ddefnyddwyr dros nifer o sesiynau. Bu 179 o bobl yn bresennol mewn arddangosiadau hyfforddi, a gynhaliwyd trwy Microsoft Teams, ac roedd hyfforddiant ymarferol ar gyfer yr holl ddefnyddwyr yn dilyn hynny.
Mae'r gwaith ar system WAP yn parhau, a'r gobaith yw y bydd yn cael ei osod mewn mwy o ysbytai ledled Cymru trwy gydol 2021.