Mae prif gynhadledd gofal iechyd digidol y DU Rhagoriaeth Gofal Iechyd Trwy Dechnoleg (HETT) yn cael ei chynnal yn Excel yn Llundain fis nesaf rhwng 26 a 27 Medi. Gan ddenu tua 4000 o gynrychiolwyr, gan gynnwys arweinwyr digidol, arbenigwyr TG, clinigwyr, fferyllwyr a diwydiant, ffocws eleni yw Galluogi Cydweithio Ystyrlon ar draws Iechyd a Gofal.
Gydag arloesedd technoleg wrth wraidd trawsnewid gofal iechyd yng Nghymru, bydd yr Athro Hamish Laing, Uwch Berchennog Cyfrifol y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMTP) yn siarad ar y cynnydd yn y broses rhagnodi digidol cyflawn ym mhob lleoliad gofal i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Mae DMTP yn arwain un o’r newidiadau mwyaf ym maes gofal iechyd yng Nghymru ers degawdau ac mae’n gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid i gyflwyno prosesau digidol newydd ar gyfer presgripsiynau, gweinyddu a darparu meddyginiaethau ledled Cymru.
Bydd yr Athro Laing yn cymryd rhan mewn sesiwn banel 40 munud, o’r enw Manteisio i’r Eithaf ar Bŵer Fferylliaeth Ddigidol a Meddyginiaethau Dolen Gaeedig, am hanner dydd 27 Medi. Bydd y sesiwn banel yn canolbwyntio ar sut mae safonau a bod yn wyliadwrus yn helpu i gefnogi gwell gofal a gwella diogelwch cleifion ochr yn ochr â darparu buddion sy'n gysylltiedig â thrawsnewid digidol. Bydd hefyd yn ymdrin â’r cynnydd sydd wedi bod ar y broses rhagnodi electronig a gweinyddu meddyginiaethau mewn ysbytai a’r hyn sydd ar y gweill ar gyfer rôl digidol wrth gefnogi gwella ansawdd mewn fferylliaeth a meddyginiaethau.
Dywedodd yr Athro Laing:
“Rydw i’n falch iawn o gymryd rhan yn y digwyddiad hwn sy’n ffocysu ar gydweithio ystyrlon ar draws iechyd a gofal. Mae hwn yn ffocws allweddol i’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol, sy’n gosod ymgysylltu a phrofiad defnyddwyr wrth wraidd popeth a wnawn i sicrhau ein bod yn cwrdd ag anghenion y bobl a fydd yn defnyddio’r technolegau newydd.”
Mae DMTP yn cael ei gynnal gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ac mae ei raglen a’i brosiectau fel a ganlyn:
Mae’r Athro Laing yn ymuno â nifer o siaradwyr o Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn HETT gan gynnwys Rhidian Hurle, y Cyfarwyddwr Meddygol, Matt Cornish, Cyfarwyddwr y Rhaglen Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a'r Cyhoedd a Chyfarwyddwr Cyhoeddus y Rhaglen a Anne Watkins, Arweinydd Gwybodeg Clinigol Mamolaeth Ddigidol Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am DMTP ewch i Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol - Iechyd a Gofal Digidol Cymru (nhs.wales) neu cysylltwch â'r tîm drwy DMTP.Comms@wales.nhs.uk.