9 Mehefin 2022
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi lansio'r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMTP) i ddarparu dull rhagnodi cwbl ddigidol ym mhob lleoliad gofal yng Nghymru.
Mae'r portffolio yn dwyn ynghyd y rhaglenni a'r prosiectau i wneud rhagnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau ym mhobman yng Nghymru yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac yn effeithiol, drwy ddull digidol.
Yn dilyn adolygiad annibynnol o ragnodi electronig yng Nghymru, nododd Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ei huchelgais ar gyfer cynllun meddyginiaethau digidol cynhwysfawr i Gymru ,
“Rydym am wneud yn siŵr bod gwasanaethau’n darparu’r canlyniadau gorau i ddinasyddion, a’u bod yn gweithredu’n seiliedig ar ddymuniadau dinasyddion a darparwyr gwasanaethau o ran defnyddio a rheoli’r gwasanaethau hynny... Gyda chymorth platfform digidol, bydd y rhaglen hon yn trawsnewid rhagnodi yng Nghymru".
Mae'r portffolio yn cydlynu pedwar maes gwaith gwahanol, ac mae gan bob un ohonynt gysylltiadau â'i gilydd:
Mae rhagor o fanylion ar gael ar y dudalen DMTP, neu gallwch gofrestru ar gyfer cylchlythyr DMTP. Mae’r Athro Hamish Laing, Uwch Berchennog Cyfrifol y Portffolio, wedi gwneud fideo byr hefyd yn esbonio'r portffolio.