24 Medi 2025
Llongyfarchiadau i'n Huwch Arweinydd Gwybodeg Glinigol, Dr Geraldine McCaffrey MRPharmS, sydd wedi'i phenodi'n Gyfarwyddwr newydd Cymru yn y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS).
Mae Geraldine, sydd ar secondiad i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) o'i swydd fel Prif Fferyllydd, Ymchwil a Datblygu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi cael ei chyhoeddi'n gyfarwyddwr newydd ar ôl proses benodi galed a strwythuredig. Mae Geraldine yn olynu Elen Jones, a benodwyd yn ddiweddar yn Ddeon Fferylliaeth newydd yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
Mae Geraldine, sy'n cefnogi ein tîm Cofnod Meddyginiaethau a Rennir (SMR) mewn Rhaglenni Moddion Digidol, hefyd yn Gadeirydd presennol Bwrdd Fferylliaeth Cenedlaethol RPS Cymru ac yn aelod o Gynulliad RPS. Bydd hi'n camu i lawr o'i swyddi presennol gyda'r RPS cyn dechrau â'r swydd gyfarwyddwr ar 1 Rhagfyr a bydd yn adrodd i Brif Swyddog Gweithredol RPS, Paul Bennett, i ddechrau nes bod Cyfarwyddwr Fferylliaeth newydd ar gyfer y Coleg Fferylliaeth Brenhinol yn y dyfodol wedi'i benodi.
Dywedodd Dr Geraldine McCaffrey: “Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi’n Gyfarwyddwr dros Gymru yn RPS ac yn gyffrous i ddatblygu ymhellach fy eiriolaeth dros y proffesiwn yng Nghymru. Mae wedi bod yn fraint gwasanaethu fel Cadeirydd Bwrdd Fferylliaeth Cymru, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r aelodau, cyd-aelodau’r bwrdd a thîm RPS i lunio ein strategaeth ar gyfer y dyfodol ac i wireddu ein hymrwymiadau. Yng Nghymru, byddwn yn lansio’n fuan ein nodau nesaf tuag at y weledigaeth 2030, ‘Fferylliaeth: Darparu Cymru Iachach’. Wedi bod yn rhan o’r Bwrdd Cyflawni ers ei sefydlu, rwy’n awyddus i gydweithio gyda thimau fferylliaeth i helpu i wireddu’r uchelgais honno.”
Dywedodd Cath O’Brien, Prif Swyddog Gwybodaeth Fferylliaeth ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru: “Mae Geraldine wedi chwarae rôl arweiniol allweddol wrth wireddu’r cysyniad a’r weledigaeth ar gyfer y Cofnod Meddyginiaethau a Rennir, gan ystyried y ffyrdd y bydd yn cael ei ddefnyddio gan glinigwyr a’r buddion i gleifion. Edrychwn ymlaen at weithio gyda hi yn ei rôl newydd i gefnogi uchelgais meddyginiaethau digidol GIG Cymru.”
Dywedodd Paul Bennett, Prif Weithredwr RPS: “Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth gais am y rôl bwysig hon. Mae safon uchel yr ymgeiswyr a’r diddordeb sylweddol yn y rôl hon yn adlewyrchu’r proffesiynoldeb a’r dalent ar draws fferylliaeth yng Nghymru.
“Mae Geraldine yn dod â chyfoeth o brofiad, o yrfa nodedig hyd yma sy’n cynnwys ei gwaith diweddar ar sefydlu’r Cofnod Meddyginiaethau ar gyfer Cymru. Mae ganddi hanes profedig o weithio gyda amrywiaeth eang o randdeiliaid ac mae ei gallu i adeiladu perthnasoedd cryf a gyrru newid cadarnhaol yn union yr hyn yr oeddem yn chwilio amdano wrth i ni bontio tuag at ddod yn Goleg Brenhinol Fferylliaeth ac i hyrwyddo fferylliaeth ar draws Cymru a thu hwnt. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Geraldine wrth i ni gychwyn ar y bennod gyffrous hon.”
Mae Moddion Digidol yn gwneud presgripsiynu, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon ac effeithiol ar gyfer cleifion a gweithwyr proffesiynol, a hynny drwy systemau digidol.
Mae’n dwyn ynghyd y rhaglenni a’r prosiectau a fydd yn cyflawni buddion dull presgripsiynu cwbl ddigidol ym mhob lleoliad gofal yng Nghymru.
Llun: Mae Dr Geraldine Mccaffrey wedi cael ei phenodi'n Gyfarwyddwr newydd y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS) yng Nghymru.