25 Mai 2023
Bydd Lesley Jones yn arwain y newid mwyaf i’r broses rhagnodi a gweinyddu meddyginiaethau mewn ysbytai yng Nghymru ers degawdau.
Gan ddod â phrofiad helaeth o 30 mlynedd o weithio ym maes nyrsio, mae Lesley wedi’i phenodi yn dilyn cyfweliad fel Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer y rhaglen rhagnodi electronig Gofal Eilaidd a Gweinyddu Meddyginiaethau (ePMA). Bydd hefyd yn parhau a’i rôl fel Pennaeth Nyrsio ar gyfer Safonau Proffesiynol a Digidol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan rannu ei hamser rhwng y ddwy rôl.
Mae’r rhaglen ePMA Gofal Eilaidd yn rhan o’r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMTP) sy’n cael ei letya gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae'n dwyn ynghyd pedair rhaglen at ei gilydd a fydd yn cyflawni buddion dull rhagnodi cwbl ddigidol ym mhob lleoliad gofal yng Nghymru. Pan gaiff ei chyflwyno, bydd defnyddio’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf yn gwneud y broses gyfan o ragnodi, gweinyddu a dosbarthu meddyginiaethau mewn ysbytai yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy effeithlon.
Dechreuodd Lesley ei gyrfa ym maes oncoleg yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac aeth ymlaen i weithio ym Mhrifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Cymerodd Lesley ran mewn cymrodoriaeth ddigidol am 12 mis yn NHS Improvement England. Cadarnhaodd y profiad hwn mai gwella a dylanwadu ar stori ddigidol Cymru oedd yr hyn yr oedd yn awyddus i wneud.
Bydd Lesley, sy’n angerddol am ddefnyddio technoleg er mwyn gwella, yn goruchwylio’r rhaglen a bydd yn datblygu ac yn meithrin partneriaethau gyda gweithwyr iechyd proffesiynol ar draws GIG Cymru a chyflenwyr diwydiant.
Yn ddiweddar, bu Lesley yn arwain y gwaith o gyflwyno Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) sy’n torri tir newydd. Bu’n rheoli ei Fwrdd Rheoli Gwasanaeth o’r cychwyn cyntaf hyd at ei roi ar waith.
Dywedodd, “Rwy’n falch o gael y cyfle hwn i wneud gwahaniaeth. Fel nyrs rwyf wedi gweld sut y gall technoleg symleiddio prosesau a helpu i wneud gofal cleifion yn fwy diogel ac yn haws. Roedd adborth gan WNCR yn dangos awydd mawr am fwy o wasanaethau digidol.
“Rydym yn byw mewn cyfnod cyffrous, byddem yn cyflwyno newidiadau parhaol mewn technoleg sy’n ystyried prosesau sylfaenol gofal iechyd a phrofiadau staff a chleifion.”
Fel nyrs mae Lesley yn gweld gwelliannau cadarnhaol o ddefnyddio ePMA gan gynnwys diogelwch, effeithlonrwydd, archwilio a gwell mynediad at wybodaeth.
“Bydd yn dod â’r helfa bapur i ben pan fydd angen cydweithiwr arnoch i ysgrifennu sgript, helpu nyrsys i leddfu poen cleifion yn gyflymach, caniatáu gwiriadau haws ar batrymau rhagnodi a darparu gwybodaeth trwy wasgu’r botwm.”
Dywedodd yr Athro Hamish Laing, Uwch Berchennog Cyfrifol ar gyfer DMTP, “Rydym wrth ein bodd bod Lesley wedi ymuno â ni i arwain a chefnogi’r gwaith o ddarparu datrysiad digidol ym mhob ward ym mhob ysbyty yn GIG Cymru. Mae ei phrofiad helaeth ar draws pob agwedd ar ofal iechyd a’i gwybodaeth a’i diddordeb mewn technoleg yn gyfuniad delfrydol a fydd o werth enfawr i’r rhaglen ePMA genedlaethol ac i’r holl sefydliadau unigol a fydd yn gweithredu ePMA ledled Cymru.”
I ddarganfod rhagor am DMTP ewch i'r wefan a chofrestrwch i dderbyn y cylchlythyr .