28 Hydref 2022
Cyhoeddir partneriaeth arloesol rhwng y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru i ganolbwyntio ar ddarparu presgripsiynu electronig newydd sy’n fwy diogel, yn fwy effeithiol ac effeithlon, i gleifion a gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru.
Mae’r trefniant yn elfen allweddol o Bortffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau'n Ddigidol - Iechyd a Gofal Digidol Cymru (gig.cymru), a fydd yn disodli systemau papur hen gyda phresgripsiynu a gweinyddu meddyginiaethau’n ddigidol ar draws GIG Cymru.
Bydd y bartneriaeth yn dod ag arbenigedd o’r ddau sefydliad ynghyd i ddeall yr hyn sy’n bwysig i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fel bod dyluniad a darpariaeth gwasanaethau digidol yn cwrdd â’u hanghenion.
Yng ngham cyntaf y gwaith partneriaeth, cynhelir ymchwil i ddilyn 'taith y defnyddiwr' wrth i staff a chleifion ddefnyddio'r gwasanaethau presgripsiwn a meddyginiaeth papur sydd eisoes yn bodoli.
Bydd yn digwydd rhwng nawr a diwedd y flwyddyn a bydd yn archwilio’r camau yn nheithiau defnyddwyr presennol i nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliannau i ddatrysiadau digidol newydd, yn seiliedig ar adborth a phrofiad defnyddwyr. Bydd hyn yn sicrhau bod gwasanaethau newydd yn darparu'r canlyniadau gorau ac yn gwneud y broses gyfan yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon i bawb.
Dywedodd Helen Thomas, Prif Swyddog Gweithredol Iechyd a Gofal Digidol Cymru: “Mae rhoi cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wrth wraidd ein cynllun yn hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau effeithiol sy’n gweithio i’r bobl sy’n eu defnyddio nhw.
“Bydd y bartneriaeth hon yn fuddiol iawn gan y bydd yn ein helpu i ddeall anghenion cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Bydd yr adborth yn cael ei ddefnyddio i lunio dyluniad a darpariaeth presgripsiynu digidol.
“Mae uno’n harbenigedd yn darparu'r meddwl blaengar a'r mewnwelediad sydd eu hangen arnom i ddarparu'r datrysiadau meddyginiaethau digidol gorau i bobl Cymru.”