14 Ebrill 2022
Mae offer Microsoft 365 (M365) yn cefnogi dros 100,000 o aelodau o staff GIG Cymru ar draws 13 sefydliad gyda ffyrdd newydd o weithio.
Mae'r defnydd o offer gan gynnwys Teams, OneDrive, SharePoint, Forms a Planner bellach yn eang, sy’n hybu cynhyrchiant ac yn cefnogi gweithlu GIG Cymru i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ledled Cymru.
Tarodd GIG Cymru ei gytundeb nodedig (M365) yn 2019, gan symud o gontractau lluosog i un tenant sy'n gwasanaethu holl sefydliadau GIG Cymru. Yn ogystal â chreu gwell gallu digidol i'r gweithlu, arbedodd y fargen £11.7 miliwn dros y cyfnod o 3 blynedd.
Arweiniwyd y gwaith o weithredu a mabwysiadu M365 gan dîm rhaglen M365, a letyir yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Fe wnaethant ddatblygu platfform canolog i Gymru gyfan gyda 'model prif ganolfan a lloerennau’ yn cyd-fynd ag arferion gorau sy'n golygu y gellir codi safonau ar draws GIG Cymru.
Gall cydweithwyr weithio o'r ddyfais o'u dewis ac yn y lleoliad o'u dewis oherwydd gwelliannau diogelwch a roddwyd ar waith gan dîm rhaglen M365. Mae'r rhain yn cynnwys rheolau i sicrhau bod cyfrinair yn cael ei greu'n ddiogel, gwasanaethau i olrhain gweithgarwch maleisus, a defnyddio meddalwedd wrthfaleiswedd a meddalwedd gwrthfeirysau newydd.
Roedd yr ystwythder cynyddol hwn yn chwarae rhan allweddol yn ymateb COVID-19 Cymru, gan alluogi gweithio mwy diogel o bell a oedd â gostyngiad o £800,000 o leiaf mewn costau teithio a chynhaliaeth.
Mae SharePoint bellach wedi disodli storfeydd ffeiliau lleol, gan ganiatáu i staff gadw, cydweithio a rhannu gwybodaeth yn ddiogel. O fis Mawrth 2022 ymlaen, mae'n cynnal dros 43 miliwn o ddogfennau, sy'n cyfateb i 50TB.
Mae OneDrive wedi disodli gyriannau rhwydwaith personol. O fis Mawrth 2022 ymlaen, mae'n cynnal dros 120 miliwn o ddogfennau, sy'n cyfateb i 130TB.
Defnyddir Teams yn helaeth hefyd ar draws GIG Cymru, gan hwyluso cyfathrebu a chydweithredu haws rhwng sefydliadau. Anfonwyd 3.2 miliwn o negeseuon a mynychwyd 610,000 o gyfarfodydd ym mis Chwefror 2022 yn unig.
Mae gwaith arall gan dîm rhaglen M365 yn cynnwys lansio InTune, datrysiad rheoli dyfeisiau symudol integredig sydd wedi galluogi sefydliadau i ddatgomisiynu gwasanaethau eraill gydag arbediad o tua £4m.
Mae rhwydwaith o 3,000 o hyrwyddwyr staff sy'n cynrychioli nifer o broffesiynau, sy'n cyfarfod i drafod gwaith arloesi lleol a chyfleoedd newydd, wedi bod yn cefnogi arloesedd M365 o fewn sefydliadau GIG Cymru.
Gall hyrwyddwyr hefyd gael mynediad at lwybrau dysgu a hyfforddiant M365, gan ganiatáu iddynt ddatblygu eu gwybodaeth a rhannu arbenigedd gyda'u cydweithwyr yn eu sefydliad.