Neidio i'r prif gynnwy

Menywod yng Nghymru i elwa ar system famolaeth ddigidol newydd

Woman in hospital receiving ultrasound scan

3 Chwefror 2023

Mae Mamolaeth Ddigidol Cymru yn falch o gyhoeddi cymeradwyaeth Gweinidogol a £7m o gyllid ar gyfer rhaglen waith pum mlynedd a fydd yn trawsnewid gwasanaethau mamolaeth yn ddigidol i fenywod a chlinigwyr yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae byrddau iechyd yn defnyddio cyfuniad o systemau digidol a phapur gwahanol. Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, “Mae sawl adolygiad diweddar o wasanaethau mamolaeth yng Nghymru a’r DU wedi galw am greu system ddigidol unedig”.

Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn caffael ac yn gweithredu’r system famolaeth newydd hon. Bydd yn galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru i rannu gwybodaeth hanfodol yn gyflymach, gan gefnogi gwasanaethau mamolaeth diogel, effeithiol a chyson lle bynnag y bydd menywod yn dewis cael gofal. 

Bydd y system famolaeth newydd yn cael ei hategu gan fframwaith clinigol safonol a fydd yn ymgorffori data, llwybrau gofal a gwybodaeth i fenywod. Bydd yn integreiddio â seilwaith digidol craidd GIG Cymru ac yn rhan o’r cofnod clinigol sengl ar gyfer Cymru.

Bydd gan fenywod fynediad digidol at eu cofnod mamolaeth personol, lle gallant gynnwys manylion sy’n bwysig iddynt a derbyn cyngor iechyd perthnasol a nodiadau atgoffa. Dim ond unwaith y bydd angen iddynt rannu eu gwybodaeth allweddol. Ychwanegodd Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru, “Yn ystod eu beichiogrwydd bydd menywod yn gweld sawl bydwraig a meddyg gwahanol weithiau ar draws gwahanol fyrddau iechyd, felly bydd cael un system ddigidol ar gyfer Cymru gyfan yn gwneud y daith honno’n llawer mwy esmwyth.”

Dywedodd Anne Watkins, Arweinydd Gwybodeg Glinigol Mamolaeth Cenedlaethol yn DHCW, “Rydym yn gyffrous am y manteision a’r cyfleoedd i fenywod yng Nghymru a gwasanaeth Mamolaeth Cymru a ddarperir gan y trawsnewid digidol arfaethedig hwn.”