Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r dyddiad cau yn agosáu ar gyfer grantiau'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig i drawsnewid systemau fferylliaeth yng Nghymru

26 Mehefin 2024

Mae’r dyddiad cau nesaf (4 Gorffennaf 2024) yn prysur agosáu i gyflenwyr systemau fferylliaeth wneud cais am grantiau i'w helpu i ddatblygu technoleg gwasanaeth presgripsiynau electronig (EPS) i’w defnyddio yng Nghymru.

Cafodd y Gronfa Arloesi ar gyfer Systemau Fferylliaeth Gymunedol (CPSIF) – a weinyddir gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, ar y cyd â Meddyginiaethau Digidol (a gynhelir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru), ar ran Llywodraeth Cymru – ei sefydlu i helpu Cyflenwyr Systemau Fferylliaeth Gymunedol cymwys i gydymffurfio ag EPS.

Bydd hefyd yn helpu’r cyflenwyr i gyflwyno newidiadau arloesol i’w systemau, a fydd yn arwain at broses ddosbarthu ddi-bapur a hysbysiadau gwthio ar ap newydd GIG Cymru.

Dyddiadau cau pwysig:  

  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 4 Gorffennaf 2024
  • Dyddiad cau olaf ar gyfer ceisiadau: 3 Hydref 2024
  • Y gronfa’n cau: 31 Mawrth 2025
  • Rhaid cyflwyno pob hawliad erbyn 31 Ionawr 2025

Dim ond ar ôl bodloni’r meini prawf llwyddiant ar gyfer pob haen (a nodir yn y Ddogfen Ganllaw) y gellir cyflwyno pob hawliad.  

Anogir cyflenwyr i wneud cais am gyllid o’r gronfa ac ymgymryd â gweithgareddau sicrwydd cyn gynted â phosibl. Ar ôl dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau, mae’n cymryd tua mis i’r panel anfon y llythyr cyllido, sy’n caniatáu i gyflenwr ddechrau ar waith a ariennir. Os bydd cyflenwr yn gwneud cais ym mis Hydref, ni fydd gwaith sy’n cael ei ariannu yn dechrau tan fis Tachwedd, sy’n gadael ychydig dros ddau fis i gwblhau’r gwaith, cael sicrwydd, a chyflwyno’r hawliad i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Mae hyd y broses sicrwydd yn amrywio o un system i’r llall, ond dyma ganllaw enghreifftiol isod:  

  • Haen 1: Tri i bedwar mis o leiaf, yn dibynnu ar gyflwyno profion a dogfennau sicrwydd yn brydlon
  • Haen 2: Gwerthuso fesul achos, yn dibynnu ar faint y newid
  • Haen 3: Dau i dri mis yn dibynnu ar gyflwyno profion a dogfennau sicrwydd ar gyfer cynefino yn brydlon
 

Mae cyflwyno gwasanaeth presgripsiynau electronig ar hyd a lled Cymru yn rhan allweddol o’r rhaglen trawsnewid Meddyginiaethau Digidol a bydd yn gwneud y broses o ragnodi a dosbarthu meddyginiaeth yn haws, yn fwy diogel, ac yn fwy effeithlon i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. 

 

Lansiwyd y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn y Rhyl, Sir Ddinbych, ym mis Tachwedd 2023, ac mewn lleoliadau eraill yng ngogledd a de Cymru eleni. Bydd y gwaith o gyflwyno’r gwasanaeth digidol newydd hwn yn genedlaethol yn dechrau’r haf hwn.  

I gael rhagor o wybodaeth ac i gael gwybod sut i wneud cais am gyllid o’r gronfa, ewch i’r Gronfa Arloesi ar gyfer Fferylliaeth Gymunedol