Neidio i'r prif gynnwy

Mae presgripsiynau electronig yn dod â 'buddion enfawr' i gleifion sy'n defnyddio dyfeisiau meddygol

11 Awst 2025

 

Mae cleifion ledled Cymru sy'n defnyddio dyfeisiau meddygol a chyfarpar a roddir ar bresgripsiwn yn elwa o wasanaeth mwy diogel ac effeithlon, yn dilyn cam sylweddol ymlaen wrth gyflwyno meddalwedd arloesol. 

Mae pob Contractwr Offer Dosbarthu (DACs) yng Nghymru bellach wedi profi technoleg yn llwyddiannus sy'n eu galluogi i ddefnyddio'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS), sy'n gwneud y broses ragnodi'n haws ac yn fwy diogel i gleifion a staff gofal iechyd. Mae tua 26,000 o gleifion yng Nghymru yn cael offer meddygol fel stoma a chynhyrchion wroleg gan Gontractwyr Offer Dosbarthu. 

Salts Healthcare yw'r contractwr offer diweddaraf i gael sicrwydd i ddefnyddio EPS yng Nghymru, gan weithio mewn partneriaeth â'r cyflenwr systemau fferyllfa Optum (EMIS gynt) Mae Salts yn ymino â Nightingale, Respond a Fittleworth, sydd wedi profi meddalwedd a ddatblygwyd gan Clanwilliam, yn llwyddiannus i'w galluogi i dderbyn presgripsiynau electronig. 

Disgrifiodd Sharon Thomas, Rheolwr Gweithrediadau Dosbarthu yn Medilink – cangen ddosbarthu Salts Healthcare – fod EPS yn dod â 'buddion enfawr' i gleifion sy'n cael dyfeisiau ac offer hanfodol ar bresgripsiwn. 

Gall cleifion y mae eu meddygfeydd teulu wedi'u galluogi gan EPS ddewis neu enwebu Contractwr Offer Dosbarthu i dderbyn eu presgripsiwn yn electronig o'r feddygfa. Mae hyn yn golygu nad oes angen postio'r ffurflen bresgripsiwn bapur bellach, gan arwain at wasanaeth mwy effeithlon. Mae EPS am ddim, yn gyfleus ac yn cynnig mwy o ddiogelwch gan y gellir olrhain presgripsiynau o'r feddygfa i'r dosbarthwr, sy'n golygu na ellir eu colli. 

Dywedodd Laurence James, Pennaeth Rhaglenni Moddion Digidol: “Dyma garreg filltir arwyddocaol arall yn y broses o gyflwyno EPS ledled Cymru, sy’n anelu at ddod â rhagnodi mwy diogel a mwy effeithlon i bob claf. Mae miloedd o bobl yn dibynnu ar gontractwyr offer dosbarthu ar gyfer dyfeisiau ac eitemau meddygol hanfodol, ac mae'n wych gweld bod pob Contractwr Offer Dosbarthu yng Nghymru bellach wedi profi eu meddalwedd sy'n galluogi EPS yn llwyddiannus.” 

Mae Salts wedi gwasanaethu cleifion yng Nghymru ers dros 30 mlynedd ac yn ddiweddar mae wedi symud ei gangen o Benarth ym Mro Morgannwg i Gaerdydd. Dywedodd Sharon Thomas: “Ni oedd y Contractwr Offer Dosbarthu cyntaf i fod yn barod ar gyfer EPS yn Lloegr flynyddoedd lawer yn ôl. Roedden ni eisoes wedi gweld nifer enfawr o bresgripsiynau'n cyrraedd yn electronig yno, felly roedd symud i EPS yng Nghymru yn broses esmwyth. 

“Rydym wedi gweithio’n agos gyda thîm y rhaglen yng Nghymru i ddilyn rhestr wirio strwythuredig iawn i baratoi ar gyfer y cyfnod pontio, a rhoddodd y ddealltwriaeth a oedd gennym eisoes y cyfle i ni baratoi a hyfforddi’r tîm. Fe wnaethon ni hefyd anfon llythyr a thaflen at bob claf cyn achredu, gan ddefnyddio'r rhestr o feddygon teulu a oedd yn mynd yn fyw gydag EPS. 

“Ffoniodd llawer o gleifion i ddeall beth roedd yn ei olygu iddyn nhw ac roedden nhw’n gallu gweld y manteision enfawr yn gyflym. Heb bapur, mae pobl yn ansicr bod presgripsiwn yn gysylltiedig ar y pwynt hwnnw, felly rydym yn egluro nad oes dim byd yn newid mewn gwirionedd heblaw ei fod yn fwy diogel, y gall fod yn gyflymach ac y gellir ei archwilio. Mae hyn yn rhoi tawelwch meddwl iddyn nhw ac mae cleifion yn derbyn y ffordd fwy effeithlon a diogel honno o dderbyn eu presgripsiwn.”  

Mae EPS yn rhan allweddol o Raglenni Moddion Digidol, a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) ar ran Llywodraeth Cymru. 

Nid oes angen i gleifion sydd am ddefnyddio EPS fynd ar-lein na defnyddio gliniadur neu ffôn clyfar. Yn syml, maen nhw’n dweud wrth staff yn eu fferyllfa neu ddosbarthwr o ddewis yr hoffen nhw ddefnyddio’r gwasanaeth. 

I ddarganfod mwy ewch i https://igdc.gig.cymru/cyfeiriadur-cynnyrch/ein-gwasanaethau-digidol/gwasanaeth-presgripsiynau-electronig/  

 

Capsiwn llun, o’r chwith i’r dde: Joanne Debono, Rheolwr Canolfan Dosbarthu Medilink Caerdydd, a Jo Bois a Sharon Burr, Cydlynwyr Gofal Cwsmeriaid Medilink.  

Share: