Neidio i'r prif gynnwy

Mae nodyn diabetes digidol yn cysylltu gwybodaeth

23 Rhagfyr 2022

Yn ôl gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio gyda chleifion diabetes, mae cofnod electronig a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer cleifion diabetes yn ‘drawsnewidiad go iawn’.

Soniodd un dietegydd am sut mae’r nodyn ymgynghori digidol ar ddiabetes (DCN) yn arbed amser iddi, gan nad oes rhaid iddi ysgrifennu’n ôl at nyrsys cyfeirio nac ymgynghorwyr. Esboniodd Victoria Oldham, dietegydd Diabetes arbenigol ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg,

“Gallaf ddiweddaru’r nodyn ac rwy’n gwybod bod gan weithwyr iechyd proffesiynol perthnasol eraill fynediad iddo hefyd. Yn ogystal â bod yn fwy effeithiol gan fod yr holl wybodaeth mewn un lle, mae hefyd yn arbed llawer iawn o amser”

Ceir mynediad i’r nodyn trwy Borth Clinigol Cymru ac fe’i defnyddir i gofnodi, gweld a rhannu gwybodaeth cleifion diabetes. Mae Dr Gautam Das, ymgynghorydd diabetes, wedi bod yn defnyddio'r DCN ers iddo gael ei dreialu yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn 2019. Dywedodd,

“Mae’n flaengar o ran arwain at newid patrwm yn y ffordd rydym yn rheoli diabetes ac yn cynnal cofnodion cleifion.

Mae'r DCN ar gael i weithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymwneud â gofal diabetes gan gynnwys dieteteg, podiatreg a’r maes cyn-geni mewn ysbytai yn ardal byrddau iechyd Bae Abertawe, Cwm Taf Morgannwg a Hywel Dda, a bydd yn cael ei lansio yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gynnar yn 2023.