Neidio i'r prif gynnwy

Mae IGDC wedi ymrwymo i gynhwysiant digidol yng Nghymru

3 Hydref 2022

Mae IGDC wedi arwyddo Siarter Cynhwysiant Digidol yn yr Uwchgynhadledd Ddigidol gyntaf a gynhaliwyd er mwyn dod â’r sectorau iechyd, gofal a gwirfoddol ynghyd i gydweithio ar sut gall offer ddigidol gefnogi a galluogi cynhwysiant yng Nghymru.

Diben y Siarter yw cefnogi a hyrwyddo sefydliadau sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector yng Nghymru sy’n fodlon hybu sgiliau digidol sylfaenol a helpu pobl i fynd ar-lein.

Wrth siarad yn y digwyddiad Siarter Digidol a gynhaliwyd ar y cyd  â IGDC, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Cwmpas, dywedodd Helena Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:  

“Trwy weithio mewn partneriaeth mewn digwyddiadau fel y rhain, drwy wrando ac annog sefydliadau a’r sector gwirfoddol i weithio ochr yn ochr â’i gilydd, gallwn ni wir groesawu digidol ai ddefnyddio at ddibenion da.

“Mae angen i ni fod yn sicr, yn yr holl ddatblygiadau digidol rydyn ni’n eu gwneud, nad ydyn ni’n eu gwneud ag unrhyw ragfarn neu wahaniaethu o ran oedran, mae’n rhaid i ni herio ein hunain gyda hynny”

Dywedodd Simon Jones, Cadeirydd IGDC: “Mae datblygiadau ym maes iechyd yn mynd i ddechrau bod yn llawer mwy gweladwy i bobl dros y flwyddyn neu ddwy nesaf. Mae pobl yn mynd i weld mwy o gyfleoedd i ymgysylltu’n ddigidol â’u gwasanaethau a rheoli eu gofal eu hunain llawer mwy.

Wrth i ni ddatblygu systemau a chymwysiadau digidol, rydym eisiau sicrhau nad yw’r bobl hynny sydd angen mynediad at wasanaethau ac sy’n defnyddio mwy o wasanaethau iechyd a gofal nag eraill ar eu colled, o’i gymharu â'r hyn y gallent fod wedi bod fel arall. 

Yr hyn yr ydym am ei wneud yng Nghymru yw gwneud cynhwysiant yn ganlyniad bwriadol ac nid gwneud diffyg cynhwysiant yn ganlyniad anfwriadol o arloesi digidol mewn gofal iechyd.”