Ymunodd siaradwyr o Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) ag aelodau eraill o'r gymuned iechyd digidol o bob cwr o'r DU a thu hwnt i rannu gwybodaeth a dysgu yng nghynhadledd Digital Health Rewired eleni,
Daeth y digwyddiad ag arweinwyr y GIG, clinigwyr, arweinwyr digidol a phartneriaid o bob cwr o'r DU ynghyd i archwilio sut y gall digidol, data a thechnoleg gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal mwy cynaliadwy, diogel ac sy’n canolbwyntio ar y person.
Cyfrannodd cydweithwyr IGDC at drafodaethau allweddol, gan rannu dysgu ymarferol a phrofiadau o Gymru.
Siaradodd Dr Carwyn Lloyd-Jones, Prif Swyddog Cwmwl IGDC, am reoli chwyddiant digidol wrth gydbwyso gwella profiad y defnyddiwr terfynol ac amlinellodd ein cynlluniau i drawsnewid i'r cwmwl. Tynnodd ei sesiwn sylw at sut y gall buddsoddiad strategol mewn seilwaith digidol modern ddarparu gwerth hirdymor, gwydnwch a phrofiadau gwell i staff a defnyddwyr.
Siaradodd Joshua Hunt, Pennaeth Cyflenwi Ystwyth IGDC, am ei brofiad o ddatblygu a chyflenwi System Imiwneiddio Cymru fel rhan o sesiwn yn archwilio adeiladu gwasanaethau iechyd gwydn sy'n canolbwyntio ar y dinesydd. Canolbwyntiodd y sesiwn ar ddylunio gwasanaethau o amgylch anghenion defnyddwyr go iawn a chreu systemau a all addasu wrth i ofynion iechyd a gofal esblygu.
Cafodd seiberddiogelwch ac ymddiriedaeth - sylfeini hanfodol ar gyfer gofal digidol diogel - eu trafod gan Julian Jones, Pennaeth Seiberddiogelwch IGDC. Pwysleisiodd ei sesiwn ar ddysgu o Ganolfan Gweithrediadau Diogelwch Cenedlaethol Cymru bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth, rhannu gwybodaeth a dulliau rhagweithiol o amddiffyn systemau iechyd a gofal cenedlaethol.
Gan ystyried persbectif strategol a chlinigol, trafododd yr Athro Rhidian Hurle, Cyfarwyddwr Meddygol IGDC, gyflawni digideiddio gofal iechyd ar lefel genedlaethol er mwyn darparu gwasanaethau digidol diogel, effeithiol a chyfartal.
Yna, cymerodd Sarah Dean, Gwybodegydd Clinigol IGDC (Cofnod Gofal Nyrsio Pediatreg Cymru), ran mewn sesiwn a rannodd sut y gellir graddio technoleg i “ryddhau staff a darparu mwy o amser i ofalu”. Dangosodd ei sesiwn sut y gall dylunio digidol tosturiol a chynhwysol leihau baich gweinyddol, cefnogi llesiant staff a gwella profiad cleifion a theuluoedd.
Mae presenoldeb yn Digital Health Rewired 2026 yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus IGDC i rannu dysgu, cryfhau partneriaethau a chefnogi darparu gwasanaethau iechyd a gofal o ansawdd uchel, wedi'u galluogi'n ddigidol, i Gymru.