10 Chwefror 2023
Mae dangosfwrdd newydd a ddatblygwyd ar y cyd gan dimau GIG Cymru yn caniatáu i glinigwyr a staff labordy weld gwybodaeth am gleifion yn ne, gorllewin a chanolbarth Cymru sy’n aros am drawsblaniad aren yn gyflymach ac yn haws.
Cafodd ei ddatblygu i wella cyflymder a chywirdeb wrth rannu gwybodaeth rhwng byrddau iechyd. Mae’r dangosfwrdd yn galluogi’r Labordy Trawsblannu ac Imiwnogeneteg Cymru (WTAIL) a defnyddwyr awdurdodedig eraill GIG Cymru gael gwybodaeth wedi’i ddiweddaru’n rheolaidd am tua 250 o gleifion ar y rhestr aros am drawsblaniad arennau a phancreas.
Mae'n trawsnewid y dull blaenorol o rannu gwybodaeth am restrau aros, lle bu'r posibilrwydd i'r adroddiad misol a dderbyniwyd gan ddefnyddwyr gwasanaeth ddyddio'n gyflym. Nawr, mae data'n cael ei ddiweddaru gan WTAIL ddwywaith y dydd ac ar gael yn syth trwy'r dangosfwrdd, gan roi trosolwg mwy cywir i ddefnyddwyr gwasanaeth i gefnogi eu penderfyniadau.
Mae'r dangosfwrdd hefyd yn cyfrifo faint o amser sydd wedi bod ers cymerwyd sampl gwaed ddiwethaf er mwyn monitro cleifion yn rheolaidd. Yna mae'n creu codau lliw ac yn hidlo gwybodaeth cleifion i roi gwybod i ddefnyddwyr a fydd angen y sampl nesaf. Yn y ddau fis ers i hyn gael ei roi ar waith, mae'r tîm wedi gweld gostyngiad o 65% yn nifer y samplau hwyr, gan sicrhau bod mwy o gleifion yn cael canlyniadau labordy cyfredol. Mae hyn yn gwella cyflymder ac effeithlonrwydd y broses o wirio cydnawsedd pan dderbynnir cynnig gan roddwr.
Crëwyd yr ateb gan ddefnyddio cynhyrchion Microsoft 365 gan gynnwys Power BI o ganlyniad i gydweithrediad llwyddiannus rhwng yr arbenigwyr yn WTAIL, tîm digidol Gwasanaeth Gwaed Cymru, a Chanolfan Ragoriaeth Microsoft 365 GIG Cymru a gynhelir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Dywedodd Felicity May, Arweinydd Digidol Histogydnawsedd ac Imiwnogeneteg Arbenigol Clinigol yn WTAIL: “Mae’r Dangosfwrdd Trawsblannu Arennau wedi bod yn drawsnewidiol i ni– nid yn unig ar gyfer gwella’r ffordd yr ydym yn rheoli ein derbynwyr trawsblaniadau posibl, ond hefyd yn amlygu’r potensial ar gyfer datrysiadau digidol i wella ein gwasanaethau a gofal cleifion.”
Dywedodd Dr James Chess, Arenegwr Ymgynghorol yn Ysbyty Treforys: “Mae’r dangosfwrdd yn fy ngalluogi i weld yn ddiogel pa rai o’m cleifion sydd ar y rhestr aros am drawsblaniad o hyd, manylion eu trawsblaniad ac a oes angen gwneud eu profion cydnawsedd meinweoedd y gwaed.”
Dywedodd Dr Laszlo Szabo, Llawfeddyg Trawsblannu Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru: “Mae’r dangosfwrdd hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni, y tîm trawsblannu, am ein cleifion sy’n aros am drawsblaniad aren neu pancreas. Gallwn wirio’n gyflym a oes gennym dderbynwyr posibl ar gyfer cynnig gan roddwr organ.”