17 Mehefin 2022
Mae miloedd o bobl sy'n agored i niwed yng Nghymru sy'n profi'n bositif am COVID-19 yn cael mynediad hawdd at feddyginiaeth gwrthfeirysol diolch i bartneriaeth rhwng Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) a Gwasanaeth Gwrthfeirysol Cenedlaethol Cymru (NAVS).
Mae DHCW wedi gallu llunio rhestr o dros 60,000 o gleifion â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes. Drwy gysylltu'r data cleifion hwn â phrofion COVID-19 positif, mae NAVS wedi gallu darparu meddyginiaeth yn gyflym a allai achub bywydau i'r rhai sy'n arbennig o agored i gael eu hanfon i'r ysbyty.
Mae'r gwaith arloesol hwn i gysylltu data wedi helpu i leihau'r straen ar ysbytai Cymru a chynyddu hygyrchedd gofal iechyd drwy wneud unigolion yn ymwybodol o'r driniaeth wrthfeirysol sydd ar gael iddynt.
Tua diwedd 2021, daeth triniaeth wrthfeirysol ar gael i'r rhai a oedd wedi profi'n bositif am COVID-19. Roedd angen cymryd y driniaeth hon o fewn pum niwrnod i ddal y feirws er mwyn lleihau symptomau a lleihau'r risg o fynd i'r ysbyty.
Gan fod y driniaeth yn sensitif i amser, cafodd DHCW ei gwahodd gan NAVS i lunio rhestr o gofnodion meddygol cleifion sy'n nodi pobl â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes.
Y cam nesaf oedd cysylltu'r data hwn â phrofion COVID-19 positif fel y gallai DHCW ddarparu adroddiad dyddiol o'r rhai a oedd wedi dal y feirws ac a oedd yn gymwys i gael triniaeth. Anfonir yr adroddiad hwn at NAVS bob bore a chysylltir â chleifion o 8am bob dydd.
Yn ddiweddar, mae DHCW wedi gallu addasu'r offeryn hwn i'r newidiadau sy'n digwydd o fewn profion COVID-19 yn genedlaethol. Wrth i bobl gyfnewid eu profion PCR ar gyfer profion llif unffordd (LFT), mae DHCW wedi gallu sicrhau bod profion hunangofnodedig yn cael eu cynnwys yn y garfan gymwys.
Mae hyblygrwydd y tîm gwybodeg o fewn DHCW wedi lleihau amser rhywun sy'n profi'n bositif am COVID-19 ac yn derbyn triniaeth sy'n sensitif i amser ac sy'n achub bywydau o ddyddiau.
Mae Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol, hefyd yn gobeithio y bydd y system hon yn lleihau anghydraddoldeb ym maes gofal iechyd drwy gael gwared ar y cyfrifoldeb ar y claf i fod yn ymwybodol o'r feddyginiaeth sydd ar gael iddynt,
"Yn aml mae'r rhai sydd â lefel uwch o lythrennedd iechyd yn tueddu i ddod o gymunedau mwy cefnog. Maent yn fwy tebygol o fod yn ymwybodol o'r driniaeth sydd ar gael iddynt a chael mynediad at driniaeth yn gynt. Fodd bynnag, drwy gysylltu â'r cleifion yn uniongyrchol ar sail eu hanghenion, gallwn chwalu anghydraddoldebau o ran mynediad at ofal iechyd.
"Mae hon yn enghraifft wych o sut mae digideiddio'r GIG yn darparu ffordd fwy di-dor o ddarparu gofal iechyd".
Mae'r gwasanaeth hwn wedi cael effaith sylweddol ar y frwydr yn erbyn COVID-19 gyda thua 3,000 o bobl yn cael eu trin â thriniaeth gwrthfeirysol ers 16 Rhagfyr 2021, pan aeth y gwasanaeth yn fyw am y tro cyntaf.