19 Awst 2022
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn falch i gyhoeddi penodiad Sam Hall heddiw i rôl Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Sylfaenol, Gofal Cymunedol ac Iechyd Meddwl.
Bydd y swydd newydd hon yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gyfrifol am arwain y gwaith o drawsnewid ein systemau a’n gwasanaethau yn strategol a’u cyflawni’n weithredol yn y sectorau Gofal Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl.
Bydd Sam yn ymuno â ni o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru lle bu'n Brif Swyddog Digidol Cymru, y rôl gyntaf o'i math yng Nghymru. Yn ystod ei hamser gyda'r Gymdeithas Llywodraeth Leol, mae Sam wedi bod yn gyfrifol am ysgogi arloesedd, newid a gwella gwasanaethau ar draws pob un o'r 22 awdurdod lleol.
Daw Sam â dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector cyhoeddus, mewn llywodraeth ganolog a llywodraeth leol fel ei gilydd. Mae hi wedi cyflawni prosiectau gyda Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth ac roedd yn Brif Swyddog Digidol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, cyn canolbwyntio ar adeiladu system Cyfrifiad 2021, yn gyntaf yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Cyflawni Digidol ac yna'n Ddirprwy Gyfarwyddwr Dylunio Gwasanaethau.
Ar ôl penderfynu gadael y Gwasanaeth Sifil, symudodd Sam i weithio ym maes llywodraeth leol, gan ddod yn Brif Swyddog Gwybodaeth a Phennaeth TG a Digidol yng nghyngor dinas Birmingham, y cyngor mwyaf yn Ewrop. Arweiniodd Sam y gwaith a alluogodd y cyngor i barhau i weithio o bell yn ystod COVID a sefydlodd dîm i wneud gwell defnydd o ddata a helpodd y cyngor i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ystod y cyfnod hwn.
Pan ofynnwyd iddi am ei rôl newydd, dywedodd Sam, “Rwyf wrth fy modd i ymgymryd â'r rôl newydd hon. Mae gallu dulliau digidol i wella iechyd, gofal a llesiant pobl ledled ein gwlad yn helaeth. Yn syml, mae bod yn rhan o hynny yn gyfle ac yn her na allwn mo’i wrthod. Ein Gwasanaethau Iechyd a Gofal yw'r gorau sy’n bodoli ac rwy'n edrych ymlaen at fod yn rhan o'u dyfodol”.
Rydym i gyd yn edrych ymlaen at groesawu Sam i deulu Iechyd a Gofal Digidol Cymru ym mis Tachwedd.