13 Mawrth 2023
Mae Cofnod Gofal Nyrsio Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth ar ôl casglu mwy na 3.9 miliwn o gofnodion nyrsio cleifion mewnol yn ystod y 23 mis diwethaf.
Mae’r system ddigidol, sydd wedi trawsnewid y ffordd y mae nyrsys yn cofnodi, storio a chael mynediad at wybodaeth am gleifion, wedi gweld mwy nag 13,000 o ddefnyddwyr yn fisol a 3.3 miliwn o asesiadau risg digidol rhwng Ebrill 2021 a Chwefror 2023.
O ran asesiadau risg, mae mwy na 1.8 miliwn o asesiadau poen wedi'u cwblhau. Roedd mwy na 394,000 o asesiadau ar gyfer wlserau pwysau ar y croen a mwy na 223,000 ar gyfer cwympiadau.
Yn hytrach na gwneud nodiadau ar bapur wrth ochr gwely claf, mae nyrsys yn defnyddio cyfrifiaduron i gipio gwybodaeth a’i storio yn ddiogel yn yr WNCR, fel bod gan ofalwyr fynediad at yr un wybodaeth gyfredol ar hyd taith gofal iechyd claf.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws GIG Cymru i ddisodli’r dogfennau papur y mae nyrsys yn eu defnyddio ar hyn o bryd â dewis amgen digidol. Mae hwn yn defnyddio iaith nyrsio safonol, sy’n gwella cywirdeb ac sy’n ei gwneud yn haws rhannu gwybodaeth rhwng lleoliadau.
Drwy fynd yn ddigidol, gall gweithwyr gofal iechyd gael mynediad at wybodaeth hanfodol er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus am ofal claf, ni waeth ble mae’r gofal hwnnw’n digwydd. Nid oes angen chwilio am nodiadau papur na gofyn i’r claf ailadrodd gwybodaeth y mae eisoes wedi’i rhoi, oherwydd gellir cael mynediad at y dogfennau yn hawdd yn yr WNCR.
Fel y dengys y canlyniadau uchod, mae hyn yn gwella profiad y claf ac mae’n rhoi mwy o amser i ganolbwyntio ar ofal.