Mawrth 29ain
Lansiwyd rhaglen newydd, a gynhelir gan y Rhwydwaith Darparu Newid Digidol, yn Ffair Yrfaoedd y DU yn Stadiwm Principality, Caerdydd, yn ddiweddar.
Bydd y rhaglen Swyddog Cefnogi Newid Busnes newydd yn cynnig cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus ymuno â thîm Newid Busnes Iechyd Digidol a Gofal Cymru ac ymgymryd â chymwysterau proffesiynol a hyfforddiant ochr yn ochr â’u rôl.
Mae Newid Busnes yn arwain y ffordd ar gyfer sicrhau newid di-dor o fewn GIG Cymru drwy gefnogi timau drwy bob agwedd ar newid, o’r cam cynllunio hyd at weithredu a thu hwnt.
Dywedodd Stacy Williams, Cydlynydd Digwyddiadau a Busnes y Gwasanaeth gyda Rhwydwaith Darparu Newid Digidol IGDC:
“Roedd y ffair yrfaoedd yn gyfle gwych i ni hyrwyddo’r rhaglen i gynulleidfa ehangach. Mae’r rôl eisoes wedi denu llawer o sylw, ac roedd siarad â chymaint o bobl â diddordeb mewn ymuno â thîm IGDC yn ysbrydoledig. Rydyn ni’n edrych ymlaen at y ffair i brentisiaid ar 5 Mawrth i hyrwyddo’r rôl ymhellach.”
Bydd y tîm Newid Busnes yng Ngerddi Sophia ar 5 Mawrth ar gyfer y Ffair Gyrfaoedd Dewiswch Eich Dyfodol: Prentisiaethau, lle bydd cyfleoedd pellach i ddysgu mwy am hyn a rolau eraill o fewn IGDC.
Os hoffech gael gwybod mwy am hyn neu am gyfleoedd eraill o fewn tîm Newid Busnes IGDC, nodwch eich diddordeb neu e-bostiwch DHCW.DigitalChangeNetwork@wales.nhs.uk .