Mawrth 12 2024
Keith Farrar, Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer rhaglen Cofnod Meddyginiaethau a Rennir (SMR) Cymru, yn tynnu sylw at wybodaeth integredig am feddyginiaethau a sut y gall wella canlyniadau cleifion, yn uwchgynhadledd iechyd digidol ReWired sydd ar ddod.
Wedi'i ystyried yn brif gynhadledd addysgol TG iechyd, mae Keith yn rhan o banel siaradwyr yn yr Uwchgynhadledd AHP Digidol ac Uwchgynhadledd Fferylliaeth, a gynhelir am 13.45 yn yr NEC Birmingham ddydd Mercher 13 Mawrth.
Yn wybodegydd clinigol profiadol gyda chyfoeth o brofiad mewn rheoli a gweinyddu meddyginiaethau, bydd yn trafod effaith dylunio sy’n canolbwyntio ar y claf a sut y gall llwyfan meddyginiaethau digidol integredig wella diogelwch.
Mae Cofnod Meddyginiaethau a Rennir Cymru yn rhaglen allweddol o fewn y Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol (DMTP), sydd â’r nod o wneud y gwaith o ragnodi, dosbarthu a rhoi meddyginiaethau yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac yn effeithiol i gleifion a gweithwyr proffesiynol drwy ddulliau digidol.