Neidio i'r prif gynnwy

IGDC yn cyhoeddi strategaeth i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal erbyn 2030

14eg Mehefin 2024

Mae’r rôl drawsnewidiol y bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal wedi’i nodi mewn strategaeth hirdymor newydd.

Gan edrych ymlaen dros y chwe blynedd nesaf, mae’r strategaeth yn nodi gweledigaeth feiddgar ac uchelgeisiol o ble mae angen i IGDC gyrraedd. Mae’r strategaeth ar gael i’w darllen mewn fformatau HTML a PDF ar wefan IGDC.

Dyma’r strategaeth hirdymor gyntaf gan IGDC ers ei sefydlu fel Awdurdod Iechyd Arbennig yn 2021. Datblygwyd y strategaeth dros y flwyddyn ddiwethaf mewn cydweithrediad â chydweithwyr IGDC, partneriaid, rhanddeiliaid a’r cyhoedd ehangach.

Mae’n adlewyrchu’r gred gan dimau, partneriaid a rhanddeiliaid bod buddsoddi mewn data a digidol yn llwybr at wasanaethau iechyd a gofal cynaliadwy a fydd o fudd i genedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.

Mae’r strategaeth yn cynnwys pwrpas sydd wedi’i ddiweddaru: ‘Gwneud digidol yn rym er gwell ym maes iechyd a gofal’. Mae’n diffinio sut y bydd gwaith IGDC yn darparu gwerth a buddion i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, cleifion a’r cyhoedd. Mae’r strategaeth hefyd yn adlewyrchu’r gofyniad i ymateb i anghenion partneriaid a’r cyhoedd mewn tirwedd ddigidol sy’n newid.

Bydd y strategaeth yn cael ei chyflawni trwy ddau gylch llawn o’r Cynllun Tymor Canolig Integredig (CTCI), sy’n nodi’n fanwl y rhaglenni gwaith a gynllunnir dros gyfnod o dair blynedd ac sy’n cael eu hadnewyddu’n flynyddol. Mae cynllun busnes blynyddol IGDC, y CTCI tair blynedd a’r strategaeth hirdymor i gyd yn cyd-fynd â’r un pum cenhadaeth strategol, gan gysylltu darpariaeth tymor byr a chanolig ag amcanion strategol tymor hwy.

Mae ugain o amcanion strategol ymestynnol sy’n cyd-fynd â’r pum cenhadaeth strategol yn nodi’r hyn y bydd IGDC yn ei gyflawni erbyn 2030 trwy weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid. Mae’r amcanion yn adeiladu ar raglenni gwaith sydd eisoes wedi dechrau, ond yn mynd y tu hwnt i’r hyn y gellir ei gyflawni mewn un cylch CTCI tair blynedd.

Yn y strategaeth hirdymor, cyflwynir pum egwyddor sy’n disgrifio sut y bydd IGDC yn llywio’r broses o wneud penderfyniadau a’r ffyrdd newydd o weithio sydd eu hangen i gyflawni’r amcanion strategol uchelgeisiol, ac i wireddu ei weledigaeth o ‘Ddarparu gwasanaethau digidol o’r radd flaenaf, gan rymuso pobl i fyw bywydau iachach.’