8 Gorffennaf 2024
Mae myfyrwyr nyrsio mewn prifysgolion ledled Cymru yn cael y cyfle i gael profiad ymarferol o system nyrsio ddigidol GIG Cymru cyn iddynt fynd ar eu lleoliadau gwaith cyntaf.
Mae’r sesiynau Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) yn helpu i roi’r wybodaeth a’r hyder i fyfyrwyr prifysgol ddefnyddio WNCR mewn amgylchedd prawf rheoledig cyn mynd i sefyllfaoedd clinigol bywyd go iawn.
Mae sesiynau rhyngweithiol yn cael eu cyflwyno ym Mhrifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gyda sesiynau pellach i’w cyflwyno i fwy o brifysgolion ledled Cymru.
Mae WNCR yn system ddigidol a ddyluniwyd ac a adeiladwyd gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC), mewn cydweithrediad â phob un o’r saith bwrdd iechyd ledled Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Mae’n galluogi nyrsys i gwblhau asesiadau wrth erchwyn gwely claf ar dabled symudol, neu ddyfais llaw arall, gan arbed amser, gwella cywirdeb a lleihau dyblygu.
Mae WNCR wedi casglu mwy na 14.8 miliwn o nodiadau nyrsio cleifion mewnol ledled Cymru. Fe’i defnyddir bellach mewn 312 o wardiau ar draws 51 o safleoedd ysbyty, ac mae’r nifer hwnnw’n cynyddu wrth i’r broses gyflwyno barhau.
Yn ystod y sesiynau, mae Beverley Havard, Swyddog Gwybodeg Glinigol Arweiniol IGDC ar gyfer WNCR, yn arwain myfyrwyr nyrsio trwy nodweddion a swyddogaethau’r system, gyda chefnogaeth tîm Newid Busnes IGDC.
Bu Beverley yn gweithio fel nyrs gofrestredig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe am 24 mlynedd. Ar ôl cefnogi myfyrwyr nyrsio yn yr amgylchedd clinigol yn y gorffennol, dywedodd Beverley ei bod am sicrhau bod myfyrwyr nyrsio yn cael dealltwriaeth sylfaenol o Gofnod Gofal Nyrsio Cymru cyn mynd ar leoliad.
Ychwanegodd: “Mae’r WNCR ar gael ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru ac mae’n rhan bwysig o lif gwaith dyddiol staff nyrsio. Mae cyflwyno myfyrwyr nyrsio i’r system yn gynnar yn eu hyfforddiant yn eu paratoi’n well ar gyfer pob agwedd ar y rôl.
“Mae wedi bod yn wych gweithio gyda’r myfyrwyr yn ystod y sesiynau rhyngweithiol hyn, ac mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn.
“Rydym hefyd yn gweithio gyda thimau TG i roi manylion mewngofnodi GIG Cymru i bob myfyriwr fel y gallan nhw gael mynediad at systemau yn gyflymach ac yn fwy effeithlon ar leoliadau ac wrth iddyn nhw ddechrau eu gyrfaoedd nyrsio.”