Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn dathlu cydnabyddiaeth genedlaethol am ragoriaeth mewn Partneriaeth Gymdeithasol

18 Mawrth 2026

Mae’n bleser gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) gael ei gynnwys mewn astudiaeth achos Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru sydd newydd ei chyhoeddi, sy'n dangos sut rydym yn ymgorffori gweithio ystyrlon a chydweithredol wrth wraidd ein sefydliad. Mae'r astudiaeth achos yn ymddangos ar LLYW.CYMRU ac yn tynnu sylw at enw da cynyddol IGDC fel arweinydd mewn newid diwylliant sy'n cael ei lywio gan bartneriaeth.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae IGDC wedi cryfhau ei ddull o Bartneriaeth Gymdeithasol drwy gydweithio'n agos â staff, undebau llafur a rhanddeiliaid i lunio sut rydym yn gweithredu, yn gwneud penderfyniadau ac yn cefnogi llesiant ein gweithlu. Mae'r astudiaeth achos yn dangos sut mae'r ymdrechion hyn eisoes yn cael effaith gadarnhaol.

Mae'r cyhoeddiad yn tynnu sylw at sawl cyflawniad a wnaed yn bosibl trwy gyd-gynhyrchu gwirioneddol, gan gynnwys:

  • Datganiad ac Amcanion Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a ddatblygwyd ar y cyd, a gymeradwywyd gan y Bwrdd ym mis Mawrth 2025.
  • Cyflwyno Adroddiad Blynyddol cyntaf y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol, a ddatblygwyd gydag undebau llafur.
  • Mentrau llwyddiannus fel Sgyrsiau Gwrth-fwlio ac Aflonyddu, a fynychwyd gan fwy na 350 o staff.
  • Cynyddu ymgysylltiad staff, a adlewyrchir mewn cyfradd cyfranogiad o 62.5% yn yr arolwg a 87% yn cwblhau gwerthusiadau.
  • Twf sylweddol mewn cynrychiolaeth undebau llafur achrededig a gweithio mewn partneriaeth. 

Cefnogir gwaith parhaus IGDC ymhellach gan yr Offeryn Hunanasesu Partneriaeth Gymdeithasol, sydd wedi ein helpu i nodi cryfderau a meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwella, gan atgyfnerthu diwylliant sydd wedi'i adeiladu ar ymddiriedaeth a thryloywder. 

Drwy ymgorffori Partneriaeth Gymdeithasol ym mhopeth a wnawn, mae IGDC yn meithrin perthnasoedd cryfach, mwy agored a mwy cefnogol rhwng gweithwyr, timau arweinyddiaeth ac undebau llafur. Mae'r dull cydweithredol hwn yn ein helpu i adeiladu gweithle lle mae llesiant, tegwch a phwrpas cyffredin yn llywio penderfyniadau bob dydd.

Dywedodd Sam Morgan, Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol “Mae ein dull cydweithredol nid yn unig yn ein helpu i lywio heriau gyda’n gilydd ond hefyd yn meithrin diwylliant o fod yn agored i syniadau ffres a safbwyntiau newydd. Yr ysbryd hwn o bartneriaeth sy'n ysbrydoli ein creadigrwydd, yn ein cadw'n arloesol ac yn hyblyg, ac yn sicrhau ein bod bob amser yn rhoi pobl wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud. Trwy ein hymdrechion ar y cyd a pharch at ein gilydd, rydyn ni’n creu rhywbeth gwirioneddol arbennig.  Rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar y sylfaen gref hon ac at sicrhau bod IGDC yn lle gwych i weithio.”

Mae ein camau nesaf yn cynnwys ehangu mannau diogel ar gyfer llais staff, cryfhau cydweithio undebau, a pharhau i ymgorffori egwyddorion Partneriaeth Gymdeithasol mewn strategaeth, diwylliant a darpariaeth gwasanaethau. Mae'r ymdrechion hyn yn sicrhau bod IGDC yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arfer gorau—creu gwasanaethau digidol sydd wedi'u hadeiladu nid yn unig ar gyfer Cymru, ond gyda Chymru. 

Gallwch ddarllen fersiynau llawn Cymraeg a Saesneg yr astudiaeth achos drwy wefan Llywodraeth Cymru.

Dilynwch ni: