Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cipio dwy o Wobrau GO

14 Mai 2021

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cael eu henwi’n enillwyr yng Ngwobrau Go Cymru am Ymateb Eithriadol i COVID-19 yn ogystal â Gwobr Ragoriaeth GO gyffredinol. Aeth enillydd pob categori ymlaen i gyrraedd rownd derfynol Gwobr Rhagoriaeth GO, a enillwyd gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, gan gydnabod y cais gorau eleni.

Cynhaliwyd Gwobrau GO Cymru gan ddefnyddio fformat ar-lein newydd arloesol brynhawn dydd Iau 29 Mehefin. Er mai digwyddiad rhithwir oedd hwn, roedd y gydnabyddiaeth o'r ceisiadau rhagorol ar gyfer y gwobrau a'r straeon y tu ôl iddynt yn real iawn.

Gallwch ddod o hyd i fanylion pellach am yr holl enillwyr ar wefan Gwobrau Go Cymru.

Mae ennill y gwobrau hyn yn golygu bod Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn rownd derfynol Gwobrau GO Cenedlaethol y DU a gynhelir ar 15 Medi 2021 yn awtomatig.