5 Medi 2022
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU 2022 gan y BCS.
Mae un ohonynt yn rhan o’r categori “Rhagoriaeth Sefydliadol, y Lle Gorau i Weithio ym maes TG” – sy’n cydnabod sefydliadau sy’n darparu’r cyfleoedd cyflogaeth a gyrfa gorau ar gyfer gweithwyr TG proffesiynol, yn ogystal â dangos ymrwymiad cadarnhaol i amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae’r ail yn rhan o’r categori ‘Rhagoriaeth Bersonol’, sy’n cydnabod gwaith Tracy Norris, sef Arweinydd ein Desg Wasanaeth, wrth ddatblygu Desg Wasanaeth DHCW sy’n cefnogi darparwyr gofal iechyd y GIG yng Nghymru.
Bydd y beirniaid yn cyhoeddi enillwyr y gwobrau yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae BCS, y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG, yn hyrwyddo ac yn cefnogi’r gymuned amrywiol sy’n tyfu ar gyfer TG a gweithwyr digidol proffesiynol. Mae ganddo dros 60,000 o aelodau o 150 o wledydd.