14 Tachwedd 2024
Roedd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn falch o gyrraedd y rownd derfynol ar gyfer dwy wobr neithiwr (13 Tachwedd) yn nigwyddiad blynyddol mawreddog Gwobrau Diwydiant TG y DU. Mae’r gwobrau yn dathlu ac yn hyrwyddo’r sefydliadau, timau, prosiectau, technolegau ac unigolion sy’n llywio dyfodol TG.
Cyrhaeddodd IGDC y rhestr fer am y ‘Lle Gorau i Weithio ym Maes TG’ ac fe gyrhaeddodd y tîm Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig y rhestr fer ar gyfer gwobr ‘Tîm y Flwyddyn’ am eu gwaith ar y newid mwyaf i ragnodi yn GIG Cymru ers degawdau.
Dywedodd Helen Thomas, Prif Swyddog Gweithredol: “Mae cyrraedd rownd derfynol gwobr mor fawreddog yn gamp anhygoel i bob un ohonom a byddwn yn parhau i weithio’n galed i wneud IGDC yn lle gwych i weithio.”
Gwobrau Diwydiant TG y DU yw’r digwyddiad mwyaf a’r digwyddiad mwyaf adnabyddus yng nghalendr y diwydiant technoleg. Cymdeithas Cyfrifiadura Prydain (BCS), Y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG a Chyfrifiadura, sy’n berchen ar ac yn gweithredu’r gwobrau. Eu nod yw dathlu rôl y gweithiwr TG proffesiynol a’r effaith gadarnhaol maen nhw’n ei gael ar fusnes, cymdeithas a’r amgylchedd.
Llun (o'r chwith i'r dde): Mat Friedlander-Moseley, Jodine Fec, Jenny Pugh-Jones a Laurence James.