Neidio i'r prif gynnwy

Heriau a llwyddiannau digidiol ar gyfer y GIG dan y chwyddwydr yn ReWired

Chwefror 26ain 2024

Mae trawsnewid iechyd a gofal drwy ddigidol a heriau cynyddol seiberddiogelwch ymhlith y themâu allweddol y bydd siaradwyr o Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn eu trafod yn Digital Health ReWired 2024

Ochr yn ochr â’r Prif Swyddog Gweithredol, Helen Thomas, sydd hefyd yn siarad mewn sesiynau ar draws y digwyddiad deuddydd mae Alun Kime, Rheolwr Cytundebau Seiberddiogelwch a Keith Farrar, Uwch Swyddog Cyfrifol.

Wedi'i hystyried yn brif gynhadledd addysgol a digwyddiad rhwydweithio ar gyfer TG iechyd, cynhelir ReWired yn yr NEC yn Birmingham ar Fawrth 12 a 13. Mae’n dod â TG, digidol, data ac arloesedd y GIG ynghyd o bob rhan o’r DU ac yn rhoi cyfle i ddysgu a chydweithio ymhlith y gymuned iechyd digidol.

Mae cyfranogiad IGDC yn cynnwys:

Prif sesiwn: Golwg systemau ar arian, digidol, y GIG ac economi’r DU

Mawrth 12, 9:45-10:45, Llwyfan Trawsnewid Digidol

Bydd Helen Thomas yn cymryd rhan ym mhrif sesiwn agoriadol ReWired wrth i banel archwilio sut mae digidol yn rhan annatod o GIG y dyfodol ac economi ehangach y DU. Dod â safbwyntiau o Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yr Adran Busnes a Masnach, yn ogystal â dau gyflenwr digidol blaenllaw i'r GIG at ei gilydd.

 

Sut i sicrhau gwydnwch eich cadwyn gyflenwi

Mawrth 12, 14:00-14:45, Llwyfan Seiberddiogelwch

Bydd Alun Kime yn cymryd rhan mewn archwilio dulliau arfer gorau o ddiogelu cyfrinachedd data tra'n sicrhau y gellir dibynnu arno i wneud penderfyniadau da a'i fod ar gael i'r rhai sy'n dibynnu arno. 

 

Datblygu dull syn canolbwyntio ar gleifion mewn oes ddigidol

Mawrth 13, 13:45-14:30, Uwchgynhadledd AHP Digidol a Fferylliaeth

Bydd Keith Farrar yn trafod manteision a heriau technolegau digidol ac yn cael mewnwelediad ymarferol i sut maen nhw’n cael eu defnyddio i wella canlyniadau cleifion. Bydd yn archwilio dull sy’n canolbwyntio ar gleifion ac yn amlygu pwysigrwydd grymuso cleifion i gymryd rhan weithredol yn eu gofal iechyd eu hunain.

 

Dysgwch fwy am y digwyddiad a gwelwch y rhaglen lawn ar Wefan Digital Health ReWired.