Neidio i'r prif gynnwy

Hack Iechyd Cymru 2022

1 Chwefror 2022

Mae Hack Iechyd Cymru wedi dychwelyd! Oes gennych chi her yn y gwaith yr hoffech i rai o'n harloeswyr gorau a disgleiriaf eich helpu i'w datrys?

Mae trefnwyr Hack yn chwilio am heriau gan gydweithwyr sy'n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â rhai o'r heriau newydd sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod pandemig COVID-19. Mae syniadau buddugol yn y gorffennol wedi cynnwys masgiau wyneb tryloyw, apiau symudol COVID Hir, dyfeisiau mesur awtomataidd ar gyfer ffwythiant yr arennau ac adnabod delweddau wedi'i bweru gan ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer canfod canser y croen yn gynnar.

Rheolir Hack Iechyd Cymru gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, gan gefnogi arloesedd i greu systemau gofal iechyd, prosesau, arferion, dulliau sy'n addas ar gyfer y dyfodol a gefnogir gan dechnoleg. Mae'n cynnig cyfle gwych i staff GIG Cymru, prifysgolion a diwydiant gydweithio a rhwydweithio i ddatblygu syniadau cam cynnar a allai ddatrys heriau iechyd gweithredol a gynigir gan glinigwyr a gweithwyr iechyd go iawn yng Nghymru. 

Bydd cyfranogwyr yn cael mynediad at arbenigwyr arloesi a fydd yn rhoi cyngor ynghylch sut i symud datrysiadau a gynigir yn eu blaen, yn ogystal â chael cyfle i sicrhau hyd at £20,000 o gyllid gan gronfa prosiect arloesi Llywodraeth Cymru o hyd at £250,000.

Ewch i wefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i ddysgu mwy am Hack eleni a chyflwynwch eich her nawr.

Cyflwynwch eich syniad her erbyn 11 Chwefror 2022.