Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodegwyr clinigol IGDC yn rhannu persbectif Cymreig yn NI2024

 

24ain Medi 2024

Rhannodd gwybodegwyr clinigol o Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) y persbectif o Gymru yn y Gyngres Ryngwladol ar Wybodeg Nyrsio eleni, NI2024.  

Cymerodd Fran Beadle, Beverley Havard, Anne Watkins, Sian Thomas ac Abi Swindail ran yn y digwyddiad ym Manceinion. Thema’r gyngres eleni oedd arloesi mewn gwybodeg nyrsio gymhwysol.  

Siaradodd Fran Beadle ar baneli am rôl arweinyddiaeth mewn gwybodeg nyrsio a datblygu proffiliau rôl swyddi gwybodeg glinigol yn seiliedig ar gymhwysedd.  

Cafwyd sgwrs ar ddatblygiad y proffesiwn gwybodeg nyrsio yng Nghymru, a thrafodaeth gyda Fran o dan y teitl: Prif Swyddog Gwybodaeth Nyrsio i arwain agenda trawsnewid digidol gwlad.  

Dywedodd: “Roedd hi’n wych cael rhannu’r persbectif Cymreig ar lwyfan rhyngwladol a chlywed sut mae gwybodeg nyrsio ar flaen y gad o ran trawsnewid digidol.”  

Rhannodd Abi Swindail gyflwyniad ar wybodeg glinigol mewn addysg nyrsio cyn cofrestru.  

Rhoddodd Beverley Havard, Arweinydd Gwybodeg Glinigol IGDC ar gyfer Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR), gyflwyniad ar drawsnewid cenedlaethol dogfennaeth nyrsio yng Nghymru.  

Mae WNCR yn system ddigidol a ddyluniwyd ac a adeiladwyd gan IGDC, mewn cydweithrediad â phob un o’r saith bwrdd iechyd ledled Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Mae’n galluogi nyrsys i gwblhau asesiadau wrth erchwyn gwely claf ar dabled symudol, neu ddyfais llaw arall, gan arbed amser, gwella cywirdeb a lleihau dyblygu.    

Nod y Gyngres Ryngwladol ar Wybodeg Nyrsio yw rhannu gwybodaeth, profiad a syniadau gydag ac ymhlith nyrsys a darparwyr gofal iechyd ledled y byd am ddatblygiad gwybodeg nyrsio er mwyn lledaenu’r wybodaeth am ddatblygiadau newydd i gryfhau ymarfer, rheolaeth, ymchwil ac addysg.