16 Medi 2021
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi ennill dyfarniad mawreddog Gwobr ar gyfer Ymateb Eithriadol i COVID-19 ar gyfer Sefydliadau'r GIG yng Ngwobrau Cyfleoedd y Llywodraeth eleni.
Mae’r wobr yn cydnabod y gwaith eithriadol a gyflawnwyd gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru i ddarparu’r Datrysiad Olrhain CysylltiadauProfi Olrhain Diogelu, a ddefnyddir gan staff Awdurdodau Lleol i gysylltu â phobl sy’n cael canlyniad Prawf Covid-19 positif.
Wedi’i gyhoeddi fel enghraifft nodedig o gaffael arloesol, roedd yn cynnwys proses prototeip cyflym a chydweithio’n agos â chyflenwyr i greu modelau trwyddedu a oedd yn adlewyrchu cwmpas a chynllun y datrysiad. Roedd y dull yn darparu gwerth eithriadol o fewn amserlen gywasgedig wrth fodloni gofynion deddfwriaeth gaffael.
Mae Gwobrau Cyfleoedd y Llywodraeth (GO) Rhagoriaeth mewn Caffael Cyhoeddus wedi bod yn dathlu’r agweddau gorau oll ym maes caffael cyhoeddus er 2003.
Roedd tîm Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cystadlu yn erbyn maes cryf ac fe gafodd 15 o sefydliadau eraill y GIG eu henwebu, gan gynnwys Cadwyn Gyflenwi GIG ac NHS National Services Scotland.
Mae’r fuddugoliaeth genedlaethol ar lefel y DU yn dilyn llwyddiant yng Ngwobrau Cyfleoedd y Llywodraeth Cymru 2020/2021 pan fachodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru Wobr Ymateb Rhagorol i COVID-19 a Gwobrau Rhagoriaeth Cyfleoedd y Llywodraeth.
Dywedodd Julie Francis, sy’n arwain Tîm Gwasanaethau Masnachol Iechyd a Gofal Digidol Cymru: “Rydym wrth ein boddau i ennill y wobr hon ac mae’n gydnabyddiaeth ffantastig o’r gwaith rydym wedi’i wneud i gefnogi ymateb GIG Cymru i COVID-19. Mae hwn yn anrhydedd i bawb fu’n rhan o’r broses hon ac mae’n cydnabod pwysigrwydd ein systemau digidol.”