Neidio i'r prif gynnwy

Gweminar - Sut mae digidol yn cefnogi trawsnewid iechyd a gofal yng Nghymru

30 Medi 2022

Bydd Ifan Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a Stuart Morris, Cyfarwyddwr Digidol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn arwain gweminar #LlesiantiGymru ar bwnc trawsnewid digidol.

Mae'r digwyddiad rhithwir yn agored i bawb, ac fe'i cynhelir ar 6 Hydref rhwng 2 a 3pm. Bydd yn archwilio sut y bu trawsnewid cyflym ar draws iechyd a gofal o ganlyniad i’r pandemig, yn enwedig trwy arloesiadau digidol. Bydd yn ystyried rhai o’r rhaglenni digidol cenedlaethol sydd ar y gweill, megis ap GIG Cymru, gweinyddu meddyginiaethau’n ddigidol a’r Adnodd Data Cenedlaethol.

Bydd y weminar yn trafod y cyfleoedd a’r heriau mwyaf ar gyfer iechyd a gofal digidol a beth mae hyn yn ei olygu i GIG Cymru.