7 Gorffennal 2022
Mae dangosfwrdd cenedlaethol newydd wedi'i lansio a fydd yn nodi tueddiadau mewn canser y colon a'r rhefr ac yn caniatáu i glinigwyr yng Nghymru addasu gwasanaethau ar gyfer gwell gofal i gleifion.
Mae'r Dangosfwrdd Canser y Colon a’r Rhefr Cenedlaethol yn defnyddio data o sawl ffynhonnell, gan gynnwys yr Archwiliad Cenedlaethol Canser y Coluddyn. Mae’n galluogi clinigwyr, ym myrddau iechyd Cymru i adnabod meysydd sy'n gofyn am newidiadau y mae angen eu gwneud er mwyn lleihau amseroedd aros neu i leddfu rhwystrau gwasanaethau yn hawdd.
Fe'i datblygwyd ar y cyd rhwng arbenigwyr gwybodaeth Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru a Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru a chlinigwyr o Fenter Canser y Coluddyn.
Ar hyn o bryd, mae clinigwyr yn defnyddio'r dangosfwrdd i roi adborth cynnar ar ei allu. Bydd yr adborth hwn yn llywio datblygiad sydd eisoes ar y gweill ymhellach. Y cam nesaf, a fydd yn cael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni, fydd ychwanegu metrigau ansawdd llawfeddygol ac oncolegol a data goroesi.
Mae data byw ar Berfformiad y Llwybr Canser Sengl wedi'i gynllunio i’w rhyddhau yn y dyfodol.