Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau Cymru yn dod ag arbedion mawr i fusnesau bach

27 Medi 2021

Yn ddiweddar, adroddodd y Financial Times (erthygl daladwy)  fod Llywodraeth Cymru wedi arbed cannoedd o filiynau o bunnoedd trwy ddefnyddio rhaglenni a gwasanaethau'r sector cyhoeddus yn ystod y pandemig.  Un o'r gwasanaethau hynny oedd rhaglen Profi Olrhain, Diogelu. Datblygwyd a ddarparwyd y rhaglen gan GIG Cymru ac fe’i rheolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Yn ôl yr erthygl, derbyniodd Llywodraeth Cymru bron i £1.1bn ar gyfer olrhain cysylltiadau a Chyfarpar Diogelu Personol yn 2020/21.  Amcangyfrifodd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd fod y llywodraeth mewn gwirionedd wedi gwario £533m ar y meysydd hynny.  Roedd hynny’n £158 y pen, 48 y cant yn is nac yn Lloegr.

Defnyddiwyd yr arian a arbedwyd i gefnogi busnesau bach gyda chostau’r pandemig.  Mae Cymru wedi eithrio cwmnïau bach a chanolig eu maint yn y sector hamdden a lletygarwch rhag cyfraddau busnes tan fis Ebrill nesaf, tra bod y rheini yn Lloegr yn talu traean o’u cyfraddau arferol o Orffennaf 1 a chyfraddau llawn o Ebrill 1 2022.