17 Ionawr 2023
Mae crynodeb digidol o ofal cleifion arennol bellach ar gael ym Mhorth Clinigol Cymru (WCP), sy’n golygu bod gwybodaeth hanfodol ar gael pan fydd ei hangen.
Mae'n cynnig golwg sy'n cael ei diweddaru'n aml ar ofal arennol unigolyn i weithwyr iechyd proffesiynol sy'n gofalu am bobl ar ddialysis, neu sydd wedi cael trawsblaniad i achub bywyd, gan wella profiad y claf.
Gall clinigwyr sydd â mynediad at Borth Clinigol Cymru weld diagnosis arennol claf, meddyginiaethau a gyflenwir gan yr uned arennol, ynghyd â nodiadau clinigol o'r system arennol. Mae hefyd yn cynnwys manylion cyswllt meddyg arennol a llawfeddyg y claf, yn ogystal â manylion ei dîm trawsblaniadau (os yn berthnasol).
Mae’r tîm arennol hefyd wedi cyflwyno’r gallu i unedau dialysis gofnodi gwybodaeth am roi meddyginiaethau. Mae hyn yn galluogi cydweithwyr i weld rhestr o feddyginiaethau a roddwyd yn ddiweddar, pan fo’r cyfleusterau hynny yn bodoli.
Y nod yw cefnogi cydweithwyr Gofal Sylfaenol ac Adrannau Argyfwng drwy roi gwybodaeth iddynt am ofal arennol claf, a fyddai fel arall y tu hwnt i’w cyrraedd yn uniongyrchol.
Disgrifiodd Dr James Chess, Arenegwr Ymgynghorol ac arweinydd Digidol Rhwydwaith Arennau Cymru sut mae gan gleifion â chlefyd yr arennau ofynion iechyd arbennig o gymhleth:
“Mae’n bosibl y bydd cleifion arennau’n cael dialysis neu’n cael eu trin â meddyginiaethau arbenigol fel gwrthimiwnyddion sydd fel arfer yn cael eu cyflenwi’n uniongyrchol o’r uned arennol. Mae’r crynodeb digidol yn caniatáu i’r wybodaeth berthnasol a gedwir yng nghofnod claf electronig arennol Cymru gael ei rhannu â’r gymuned glinigol ehangach a chyfeirio clinigwyr ar sut i gael cyngor arennol wedi’i deilwra i leoliad a statws iechyd y claf.”
Mae’r crynodeb digidol o ofal arennol wedi cael ei ddatblygu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru, fel rhan o brosiect Cronfa Drawsnewid Llywodraeth Cymru ar ran Rhwydwaith Clinigol Arennol Cymru.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Gareth O'Gorman, Rheolwr Rhaglen Trawsnewid Arennol.