Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith darparu Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn cyflymu yng Nghymru

13 Awst 2024

Mae’r gwaith o ddarparu gwasanaeth presgripsiynau electronig (EPS) yng Nghymru yn cyflymu. Mae’r pedwerydd cyflenwr system fferylliaeth wedi cael cymeradwyaeth i gyflwyno ei feddalwedd yn ei fferyllfeydd cymunedol.

Gall Clanwilliam bellach ddefnyddio ei system RxWeb ledled Cymru ar ôl monitro cadarn mewn dwy fferyllfa – Fferyllfa Sili a MW Phillips yn Nhregatwg, y Barri. Roedd y fferyllfeydd yn gweithio mewn partneriaeth â Phractis Meddyg Teulu Sili i sicrhau y gallai’r feddalwedd dderbyn presgripsiynau a anfonir yn electronig, heb fod angen y ffurflen papur gwyrdd.

Mae’r gymeradwyaeth yn golygu y gellir defnyddio EPS bellach mewn unrhyw fferyllfa yng Nghymru sy’n defnyddio RxWeb, cyn belled â bod practis meddyg teulu’r claf yn gallu anfon y presgripsiwn yn electronig a bod y fferyllfa’n barod i’w dderbyn.

Lansiwyd EPS ym mis Tachwedd 2023 yn y Rhyl, Sir Ddinbych, ac mae bellach yn fyw mewn nifer o safleoedd yng ngogledd a de Cymru.

Mae'r cyflenwyr systemau fferyllol Invatech, Boots a Positive Solutions eisoes wedi cwblhau'r gwaith o ddatblygu a phrofi eu systemau meddalwedd yn llwyddiannus.

Dywedodd Jenny Pugh-Jones, Cadeirydd y rhaglen EPS Gofal Sylfaenol: “Rydym wrth ein bodd o weld Clanwilliam yn cael cymeradwyaeth i gyflwyno ei feddalwedd, gan ddod y pedwerydd cyflenwr system fferylliaeth yng Nghymru i wneud hynny. Mae’r garreg filltir ddiweddaraf hon yn dangos y cynnydd sylweddol iawn y mae EPS yn ei wneud yng Nghymru, a hoffwn ddiolch i bawb a fu’n ymwneud â chyrraedd y cam hwn.

“Mae clinigwyr yn dweud wrthym fod presgripsiynu electronig eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau, gan wneud pethau’n haws i gleifion ac yn fwy effeithlon i staff gofal iechyd. Edrychwn ymlaen at weld mwy o fferyllfeydd cymunedol yn dechrau defnyddio EPS yn y dyfodol agos.”

Mae’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yn caniatáu i feddygon teulu a rhagnodwyr eraill anfon presgripsiynau yn electronig i fferyllfa o ddewis y claf. Yn y rhan fwyaf o achosion,  nid oes angen argraffu’r ffurflen bapur werdd mwyach na mynd â hi i’r fferyllfa, a fydd dros amser yn helpu i leihau’r defnydd o bapur yng Nghymru a bod yn well i'r amgylchedd. Bydd y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl.

Dywedodd Eileen Byrne, Rheolwr Gyfarwyddwr Clanwilliam: “Mae derbyn cymeradwyaeth i gyflwyno RxWeb ledled Cymru yn gam sylweddol ymlaen i wella effeithlonrwydd gofal iechyd yn y rhanbarth. Rydym yn falch o gefnogi mabwysiadu rhagnodi electronig, gan sicrhau bod fferyllfeydd, practisiau meddygon teulu a chleifion yn elwa ar wasanaethau symlach."

Cefnogwyd datblygiad Clanwilliam o RxWeb gan Gronfa Arloesi System Fferylliaeth cymunedol, a sefydlwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Moddion Digidol ar ran Llywodraeth Cymru.

 

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: “Mae cymeradwyo system RxWeb Clanwilliam yn dyst i’r cynnydd sylweddol sy’n cael ei wneud o ran datblygu a gweithredu’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig ledled Cymru.

“Mae’r garreg filltir hon nid yn unig yn gwella effeithlonrwydd a hwylustod systemau fferyllol, ond hefyd yn meithrin system gofal iechyd sy’n fwy cynaliadwy yn amgylcheddol. Rydym yn falch o gefnogi’r datblygiadau hyn drwy’r Gronfa Arloesedd System Fferylliaeth cymunedol, gan ysgogi arloesedd a chydweithio er mwyn darparu gofal iechyd gwell yng Nghymru.”

Mae EPS yn rhan allweddol o’r rhaglen drawsnewid Moddion Digidol, a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ac mae’n gwneud y broses o ragnodi a dosbarthu meddyginiaethau yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy effeithlon i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

I ddarganfod rhagor ewch i https://igdc.gig.cymru/ein-rhaglenni/moddion-digidol/